Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd neu geisiadau sy’n parhau i fod yn anghyflawn ar y dyddiad cau, yn cael eu trin yn unol â’r trefniadau ceisiadau hwyr.

Bydd newid blaenoriaeth a dderbynnir gan yr Awdurdod Lleol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd yn cael ei drin fel cais hwyr.

Yn achos ceisiadau lle cafwyd newid mewn amgylchiadau, a effeithiodd ar statws y cais gyda golwg ar y meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael (h.y. newid cyfeiriad), gallai’r cais hefyd gael yn cael ei drin fel cais hwyr os cafodd yr Awdurdod ei hysbysu ynglŷn â’r newidiadau hyn ar ôl y dyddiad cau. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried ar sail ddisgresiwn amgylchiadau newid cyfeiriad annisgwyl cyn penderfynu trin y cais fel un hwyr.

Yn anffodus, dim ond os ceir hysbysiad o’r newid cyfeiriad ddim llai na 6 wythnos cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd y gellir defnyddio disgresiwn er mwyn i’r cyfeiriad newydd gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion dyrannu.

Gofynnir i chi nodi y gall ceisiadau a gaiff eu pennu yn rhai hwyr gynyddu’r posibilrwydd na chewch gynnig le yn eich dewis ysgol(ion). Bydd hyn oherwydd y caiff pob cais a gyflwynir gyda’r dystiolaeth angenrheidiol cyn y dyddiad cau flaenoriaeth dros y rhai a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.

Amserlen prosesu ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau (ceisiadau hwyr)

Cymwys i Ysgolion Uwchradd yn Unig

Derbyn y CaisDydduad Y Cynnig
Tachwedd 202612 Mawrth 2027
Rhagfyr 202626 Mawrth 2027
1- 15 Ionawr 20272 Ebrill 2027

Cymwys i ysgolion Cynradd a’r Uwchrad

16 – 31 Ionawr 20271 Mai 2027 (Cynradd)
10 Ebrill 2027 (Uwchradd)
Chwefror 20273 Mai 2027 (Cynradd)
16 Ebrill 2027 (Uwchradd)
Mawrth 202714 Mai 2027
Ebrill 202721 Mai 2027
Mai 202711 Mehefin 2027
Mehefin 20279 Gorffennaf 2027
1-10 Gorffennaf 202716 Gorffennaf 2027
11 – 17 Gorffennaf 202723 Gorffennaf 2027
18th – 24 Gorffennaf 202730 Gorffennaf 2027
25 – 31 Gorffennaf 20276 Awst 2027
1- 7 Awst 202713 Awst 2027
8 – 14 Awst 202720th Awst 2027
15 – 21 Awst 202727th Awst 2027
22 – 28 Awst 2027O Fewn Wythnos

Derbyn i grwpiau blwyddyn eraill

Pan dderbynnir ceisiadau ar gyfer derbyniadau i grwpiau blwyddyn gwahanol i’r flwyddyn fynediad arferol, ni fydd y rhain yn cael eu hystyried tan ddechrau ail hanner tymor yr haf (ar ôl gwyliau’r Sulgwyn). Unwaith eto, bydd y rhain yn cael eu gosod mewn sypiau ac yn cael eu prosesu yn unol â’r meini prawf pan fydd mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, yn fisol. Ni fydd rhieni’n cael gwybod am benderfyniad yn gynharach na 4 wythnos cyn diwedd tymor yr haf.

Caiff y ceisiadau hyn eu casglu ar sail fisol a chânt eu prosesu yn ôl y meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael pe byddai nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael. Fodd bynnag, dylid nodi y rhoddir blaenoriaeth i’r rhieni hynny sy’n edrych am le yn ystod y tymor presennol yn hytrach nag yn y flwyddyn academaidd newydd.