Skip to Main Content

Mae Côd Ymarfer Derbyniadau i Ysgolion (Gorffennaf 2013) yn rhoi’r hawl i rieni fynegi y byddai’n well ganddynt fod eu plentyn yn cael ei dderbyn i unrhyw ysgol a gynhelir gan gronfeydd cyhoeddus. Fodd bynnag, mae rhesymau pam y byddai’n rhaid gwrthod y dewis hwnnw, gan fod yn rhaid i’r Awdurdod Lleol roi ystyriaeth hefyd i’r canlynol:

  • Y cynllun maint dosbarthiadau babanod sydd wedi ymrwymo i sicrhau na fydd unrhyw blentyn 5, 6, a 7 oed mewn dosbarth o fwy na 30 o ddisgyblion ar gyfer pob un athro/athrawes gymwys. Mae’r cyfyngiad maint dosbarth babanod statudol o 30 o ddisgyblion yn gymwys i ddosbarthiadau derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2.
  • Mae’r Awdurdod Lleol yn ymrwymo i sicrhau fod dosbarthiadau CA2 yn parhau ar 30 neu lai yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
  • Cyfyngiadau ffisegol yr ysgol ac adeiladau’r safle
  • Unrhyw ffactorau eraill a allai fod yn anfanteisiol wrth ddarparu addysg effeithlon ac/neu i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon.

Eithriadau

Yn ôl rheoliadau Llywodraeth Cymru mae’n ofynnol i Awdurdodau

Lleol gyfyngu meintiau dosbarthiadau babanod i 30 o ddisgyblion ar

y mwyaf ac i sicrhau nad yw dosbarthiadau iau yn fwy na 30 disgybl.

Ceir eithriadau fodd bynnag i’r rheoliadau hyn (a elwir yn “ddisgyblion eithriedig”) a allai ganiatáu i ddosbarth fynd dros y cyfyngiad dosbarth o 30 disgybl.

Y disgyblion hyn yw:

i. Plant y mae eu datganiadau ADY yn nodi y dylent gael eu haddysgu yn yr ysgol dan sylw, ac sy’n cael eu derbyn i’r ysgol y tu allan i’r rownd dderbyn arferol;

ii. Plant sy’n derbyn gofal ac sy’n cael eu derbyn y tu allan i’r rownd dderbyn arferol;

iii. Plant y gwrthodwyd eu derbyn i ysgol yn wreiddiol, ond y cynigiwyd lle iddynt ar ôl hynny y tu allan i rownd dderbyn arferol drwy gyfarwyddyd panel apeliadau, neu gan fod y sawl oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad gwreiddiol yn cydnabod fod camgymeriad wedi ei wneud wrth weithredu trefniadau derbyn yr ysgol;

iv. Plant nad ydynt yn gallu cael lle mewn unrhyw ysgol addas arall o fewn pellter rhesymol i’w cartref oherwydd eu bod yn symud i’r ardal y tu allan i rownd dderbyn arferol;

v. Plant y dymunir cael addysg ar eu cyfer mewn ysgol lle siaredir Cymraeg pan fydd yr ysgol dan sylw yr unig ysgol o fewn pellter rhesymol i’w cartref;

vi. Plant y dymunir cael addysg ar eu cyfer mewn ysgol â chymeriad crefyddol penodol pan fydd yr ysgol dan sylw yr unig ysgol o fewn pellter rhesymol i’w cartref;

vii. Disgyblion sy’n cael eu derbyn i’r ysgol mewn grŵp oedran lle mae plant yn cael eu derbyn yn arferol ac

  • sy’n cael eu derbyn ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol berthnasol; ac
  • nid yw’r ysgol wedi cyrraedd ei nifer derbyn eto ond eisoes wedi trefnu ei dosbarthiadau; ac
  • os byddai derbyn y plentyn yn golygu y byddai’n rhaid i’r ysgol gymryd cam perthnasol;

viii. Plant staff y lluoedd arfog sy’n cael eu derbyn y tu allan i’r cylch derbyn arferol.

ix. Plant y mae efaill neu frawd neu chwaer o enedigaeth luosog wedi eu derbyn fel disgyblion heb fod yn eithriedig, yn ddisgybl/ disgyblion olaf gyda lle wedi’i glustnodi cyn cyrraedd y nifer o dderbyniadau.

x. Plant sy’n ddisgyblion ar gofrestr ysgolion arbennig, ond sy’n derbyn rhan o’u haddysg mewn ysgol brif ffrwd; ac

xi. Plant Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n cael eu haddysgu fel arfer mewn uned arbennig mewn ysgol brif ffrwd, ond sy’n derbyn rhai o’u gwersi mewn dosbarth sydd heb fod yn ddosbarth addysg arbennig.

Bydd y disgyblion eithredig yn parhau felly, ar ôl iddynt gael eu derbyn, am weddill eu hamser yn y dosbarth babanod neu hyd nes i niferoedd y dosbarth gwympo’n ôl ac y gellir eu trefnu i gydymffurfio â therfyn maint y dosbarth babanod.

Rhestrau Aros

Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny a fu’n aflwyddiannus wrth gael lle yn eu dewis ysgol(ion), caiff rhestri aros eu cadw hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd y gwnaed cais ar ei chyfer. Wedi’r cyfnod hwn, bydd y rhestrau aros presennol yn dod i ben a bydd angen gwneud cais o’r newydd. Caiff manylion y plentyn eu hychwanegu’n awtomatig ar y rhestr aros ar gyfer yr ysgol(ion) a ffafrir adeg gwrthod.

Caiff rhestri aros eu blaenoriaethu yn ôl y meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ac ni fyddant yn seiliedig ar y dyddiad y cyflwynwyd y cais. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw hysbysu’r ysgol a’r Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar y meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ac felly le eu plentyn ar y rhestr aros. Byddai newid cyfeiriad yn enghraifft o hyn.

Bydd yr Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr o fewn 7 diwrnod gwaith o’r lle’n dod ar gael, os yw eu plentyn yn gymwys am ystyriaeth o’r lle. Rhoddir 7 diwrnod i’r rhiant i dderbyn neu wrthod y cynnig yn ffurfiol mewn ysgrifen. Ar ôl y cyfnod hwnnw, caiff enw’r plentyn ei dynnu o’r rhestr aros a chynigir y lle i’r plentyn nesaf ar y rhestr aros, gan y bydd yr Awdurdod Lleol yn tybio nad oes angen y lle mwyach