Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo cyllideb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Iau, 5 Mawrth 2026. Mae’n nodi sut y bydd yr awdurdod yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau, a darparu gwasanaethau allweddol i drigolion yn y flwyddyn i ddod.
Mae’r cyngor yn cynllunio cyllideb o £230 miliwn ar gyfer 2026-27, wedi’i hariannu drwy gyfuniad o grant gan Lywodraeth Cymru, treth y cyngor, ffioedd a thaliadau. Mae’r gyllideb wedi’i llunio i gefnogi cynaliadwyedd yn y tymor hir, drwy fuddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth sydd fwyaf pwysig i gymunedau lleol.
Mae’r gyllideb twf yn adlewyrchu’r ymgysylltu helaeth a fu gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid. Casglwyd adborth trwy weithgareddau ymgynghori a sesiynau ymgysylltu a chraffu. Mae’r adborth hwn wedi chwarae rhan allweddol i lywio penderfyniadau terfynol, a sicrhau bod unrhyw fuddsoddi yn cael ei dargedu mewn ffordd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i drigolion ledled y sir.
Yn dilyn ymgynghoriad ar y gyllideb ddrafft rhwng 22 Ionawr a 18 Chwefror, bydd £2 filiwn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf ar gyfer priffyrdd yn cael ei ychwanegu at y £5.5 miliwn arfaethedig a gafodd ei gynnwys yn y gyllideb ddrafft, a’i fuddsoddi dros dair blynedd i wella cyflwr rhwydwaith ffyrdd y sir. Bydd hyn yn cefnogi camau hirdymor, wedi’u targedu i fynd i’r afael â thyllau yn ogystal â phrosiectau ar gyfer priffyrdd.
Mae’r gyllideb yn cynnwys £1 miliwn ychwanegol uwchlaw chwyddiant, ar gyfer addysg, sy’n gyfystyr â chynnydd o £96 fesul disgybl i ysgolion lleol, i helpu i dalu costau cynyddol a chefnogi presenoldeb a chyrhaeddiad. Bydd cyllid wedi’i dargedu yn cefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac yn galluogi dysgwyr ag anghenion cymhleth i aros yn eu hysgolion lleol. Bydd y buddsoddiad hefyd yn ariannu’r rhaglenni ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac yn cryfhau addysg Gymraeg yn y sir.
Bydd y cyngor yn buddsoddi £1 miliwn ychwanegol mewn gofal cymdeithasol, uwchlaw costau cynyddol y gwasanaeth, a hynny i ateb y galw sydd ar gynnydd ac sy’n fwy cymhleth. Bydd hyn yn cefnogi gwasanaethau oedolion a phlant, yn cryfhau gofal cymunedol, ac yn helpu pobl i gael cymorth yn agosach at eu cartref. Bydd y buddsoddiad yn canolbwyntio ar ail-alluogi, i helpu oedolion i gadw’n annibynnol, rhoi cymorth yn gynharach i deuluoedd, a chynnal gwasanaethau plant yn fewnol i sicrhau bod plant sy’n agored i niwed yn cael y gofal cywir.
Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae gosod cyllideb gytbwys yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yn heriol iawn, ond cyllideb twf yw hon, ac un sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cymunedau. Trwy wrando ar drigolion a rhanddeiliaid, rydym yn gwneud penderfyniadau wedi’u targedu, sy’n diogelu gwasanaethau hanfodol heddiw, wrth gefnogi dyfodol y sir.”
“Mae’r gyllideb hon yn adlewyrchu’r safbwyntiau yr ydym wedi’u clywed a’n huchelgais ar y cyd i barhau i gyflawni’r hyn sydd fwyaf pwysig i bobl ledled Sir Fynwy.”
Er mwyn cefnogi buddsoddiad parhaus a diogelu gwasanaethau allweddol, mae’r cyngor wedi cytuno ar gynnydd o 5.95% yn y dreth gyngor.
Dywedodd y Cyng. Ben Callard, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Ein prif flaenoriaeth trwy gydol y broses yw taro’r cydbwysedd cywir. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad i gynyddu’r dreth gyngor, ond mi fydd yn ein helpu i fuddsoddi mewn cymunedau, diogelu gwasanaethau hanfodol a chefnogi twf yn y sir yn y tymor hir.”
“Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i lunio’r gyllideb hon.”
Tags: Monmouthshire, news