Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo’n ffurfiol cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) i’w archwilio’n annibynnol yn dilyn pleidlais yng nghyfarfod llawn y cyngor ddoe (23 Hydref 2025).
Mae’r CDLlN yn cyflwyno’r weledigaeth strategol ar gyfer defnydd a datblygiad tir ledled Sir Fynwy hyd at 2033, gan lunio dyfodol tai, seilwaith, cyflogaeth, yn ogystal â darparu amddiffyniad cadarn ar gyfer 99.7% o’r tir na fydd ar gael ar gyfer datblygu.
Mae’r cynllun yn adlewyrchu ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, datblygu polisi sy’n dros y pum mlynedd diweddaf. Yn ystod 2021, 2022 a 2024, mae’r cyhoedd wedi cael ei ymgynghori dro ar ôl tro wrth i’r cynlluniau ddatblygu. Hoffai’r cyngor ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriadau cyhoeddus a’r cyfarfodydd craffu.
Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2024, cymerodd tua 950 o drigolion a rhanddeiliaid ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau’r cyngor. Hoffai’r cyngor ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad a’r cyfarfodydd craffu dilynol.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod y Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cyng. Paul Griffiths: ” Bydd y Cynllun hwn yn galluogi dyfodol newydd i Sir Fynwy dros y degawdau nesaf. Yn y gorffennol agos, mae tai newydd wedi bod yn rhy ddrud i bobl ifanc sydd am fyw a gweithio yn ein sir. Bydd y cynllun hwn yn darparu’r tai sy’n cadw pobl ifanc yn y sir, yn gweithio i fusnesau a gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni i gyd.
“Rydym wedi treulio pum mlynedd yn ymgysylltu ac yn gwrando ar bobl leol. Mae llawer o safleoedd datblygu wedi cael eu trafod ac mae llawer wedi’u gwrthod. Gellir dylunio’r safleoedd a ddewiswyd nawr i’r safon uchaf – cartrefi deniadol, cynaliadwy, wedi’u tirlunio’n dda i mewn i fannau cyhoeddus agored gyda llwybrau cerdded i mewn i drefi a phentrefi.
“Bydd y swm cyfyngedig o dir sydd ar gael nawr ar gyfer tai newydd a busnesau newydd yn galluogi amddiffyniad i’r holl dir arall, ac yn creu dyfodol cyffrous i Sir Fynwy iau gyda busnesau hyd yn oed fwy llwyddiannus. Bydd gan bob un o’r tai newydd baneli solar bydd yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio. Bydd y tai newydd yn cael eu hintegreiddio i mewn i’r trefi a’r pentrefi presennol, gan ganiatáu dyfodol bywiog i’n trefi bendigedig.”
Bydd y CDLl bellach yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol cyn ei mabwysiadu’n ffurfiol.
Tags: Monmouthshire, news