Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ei Gynhadledd Ieuenctid flynyddol ar ddydd Gwener 23 Mai yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga.
Mae’r Gynhadledd Ieuenctid yn caniatáu i bobl ifanc o ysgolion ledled y Sir i ystyried o ddifri’ y tri maes blaenoriaeth a nodwyd yn arolwg Gwneud Eich Marc 2025, y cymerodd 3,509 o bobl ifanc ran ynddo, sef y nifer uchaf erioed.

Y meysydd blaenoriaeth oedd:
1. Costau byw (gyda chyfran o 17.1% o gyfanswm y bleidlais gan yr holl ymatebwyr)
2. Materion iechyd meddwl (gyda chyfran o 17% o gyfanswm y bleidlais gan yr holl ymatebwyr)
3. Cyflogaeth a sgiliau (gyda chyfran o 14% o gyfanswm y bleidlais gan yr holl ymatebwyr)

Cynhaliwyd trafodaethau a gweithdai ynghylch y meysydd blaenoriaeth hynny gyda’r bwriad o lunio argymhellion i wneuthurwyr penderfyniadau, gwasanaethau cyhoeddus a phobl ifanc eu hunain fynd i’r afael â nhw dros y flwyddyn nesaf.
Agorodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, Gynhadledd Ieuenctid eleni a rhoddodd rywfaint o bersbectif ar y tri phrif fater blaenoriaeth ar lefel genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar leisiau pobl ifanc ledled Sir Fynwy ac yn clywed beth sy’n bwysig iddynt.”
“Bydd ymgysylltu â phobl o bob oed yn ein helpu i ffurfio darlun cytbwys o’r hyn sydd bwysicaf i bobl Sir Fynwy.”
“Rwy’n gobeithio bod pawb a fynychodd Gynhadledd Ieuenctid ddydd Gwener wedi gallu deall sut mae’n rhaid i ni i gyd gefnogi ein gilydd i ffynnu fel sir.
“Dyma fy hoff gynhadledd o flwyddyn y Cyngor bob amser – mae gwrando ar leisiau ein pobl ifanc yn fy ysbrydoli ac yn ein hatgoffa ni i gyd o’r mewnwelediad a’r arloesedd maen nhw’n eu cynnig.”

Dywedodd y Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet dros Addysg: “Gall dysgu sut y gall llywodraeth leol weithredu i gefnogi pobl o bob agwedd ar gymdeithas fod yn rhan hynod fuddiol o addysg.”
“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y Gynhadledd Ieuenctid.”
“Mwynheais yn arbennig wrando arnyn nhw’n trafod iechyd meddwl a lles, gan fyfyrio ar eu profiadau a rhannu eu syniadau.
“Maent wedi rhoi llawer i mi feddwl amdano ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl ifanc ledled Sir Fynwy i amddiffyn a gwella iechyd meddwl yn ein hysgolion.”

Am ragor o wybodaeth am y Gynhadledd Ieuenctid, yr arolwg Gwneud Eich Marc a mwy, ewch i dudalen we’r Gwasanaeth Ieuenctid yn monlife.co.uk/connect/youth-service/
Tags: Monmouthshire, news, Usk