Bydd Cyngor Sir Fynwy yn derbyn cyfran o £5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i adnewyddu, gwella a chreu mannau chwarae ledled y Sir.
Mae’r cyllid wedi’i ddyrannu i greu cyfleoedd chwarae cynhwysol sy’n annog pob plentyn i gymryd rhan mewn chwarae wrth wella mynediad a diogelwch.
Mae chwarae’n effeithio’n gadarnhaol ar blant a theuluoedd ac mae’n hanfodol yn natblygiad plentyn, gan eu helpu i feithrin eu hyder, eu gwydnwch a’u hunan-barch.
Ymwelodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, a’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth â maes chwarae Lôn Cae Williams wedi’i adnewyddu yn Nhrefynwy, gan gyfarfod â rhieni a phlant sy’n elwa o’r cyfleusterau.

Croesawon nhw’r Gweinidog Plant, Dawn Bowden, i Lôn Cae Williams, ynghyd â phlant o Ysgol Gynradd Overmonnow.
Mae’r maes chwarae wedi’i wella diolch i gyllid o’r Gronfa Teithio lLesol, trwy Gynllun Teithio Llesol Lôn Cae Williams. Mae’r cynllun wedi gweld cymysgedd o blannu planhigion, mannau chwarae naturiol ecogyfeillgar, offer fel siglenni a llu o offer ecogyfeillgar ar gyfer datblygiad plant, fel tŷ draenog. Mae’r ardal chwarae hefyd yn cael ei defnyddio fel ysgol goedwig gan Ysgol Gynradd Overmonnow.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae mannau chwarae yn rhoi cyfle i blant archwilio eu dychymyg, mwynhau’r awyr agored, a chadw’n egnïol mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
“Mae mor bwysig ein bod yn ymestyn y manteision hyn i gynifer o gymunedau â phosibl ledled y Sir.”
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch: “Mae’r llwybr newydd a ddarparwyd gyda chyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn darparu llwybr diogel i’r ysgol ac i’r dref.
“Roedd yn wych clywed faint mae’r plant yn mwynhau cerdded a beicio i’r ysgol, gan stopio i chwarae yn y maes chwarae.
“Rydym yn cyflawni gwelliannau ledled y Sir i wneud cerdded a beicio yn ddewis hawdd ac amlwg ar gyfer teithiau lleol, gan fod o fudd i bawb o rieni â chadeiriau gwthio i ddefnyddwyr sgwteri symudedd.”
Tags: active travel, Monmouth, Monmouthshire, news