Rydym yma i gynnig cymorth a chyngor i gymuned ffermio Sir Fynwy.
Yr ydym yn gweithio i wella iechyd a lles anifeiliaid fferm pan ar y fferm, wrth deithio ac yn y farchnad.
Mae’r gwasanaeth hon hefyd yn delio gyda thrwyddedu sefydliadau penodol sy’n cadw anifeiliaid.
Cysylltiadau
Ffôn:
E-bost: animalhealth@monmouthshire.gov.uk
Cŵn Strae
Beth i’w wneud os dewch chi o hyd i gi strae
E-bostiwch uskboardingkennels@hotmail.com neu ffoniwch 01291 675459 (7:30am i 5:00pm)
Rhif cyswllt y tu allan i oriau arferol 07833174131 – 5:00pm i 7:30am – 7 diwrnod yr wythnos. Os na chewch ymateb a’ch bod yn teimlo bod y sefyllfa’n argyfwng, ffoniwch ein rhif ffôn argyfwng y tu allan i oriau arferol 0300 123 1055
Beth i’w wneud os ydych wedi colli’ch ci
Byddwn yn cadw cofrestr o’r holl gŵn y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt fel y’u canfuwyd. Cysylltwch â ni i wirio a ydym yn gwybod a ydym wedi cael gwybod am gi.
Taliadau am gŵn sy’n cael eu casglu/cadw
Os yw eich ci yn cael ei gadw, bydd rhaid talu i’w ryddhau gan gynnwys unrhyw letya, ffioedd milfeddygol ac unrhyw gostau eraill. Bydd cŵn yn cael eu cadw am hyd at 7 diwrnod. Rhaid talu’r tâl am y gwasanaeth hwn cyn i’r ci gael ei gasglu (derbynnir arian parod neu siec gyda cherdyn banc).
Disgrifiad |
Pris (£) ac eithrio TAW (gan gynnwys yr holl dreuliau rhesymol) |
Yr isafswm tâl ar gyfer rhyddhau’r ci |
£60.00 |
Tâl Dyddiol am Ofalu am y Ci |
Y diwrnod cyntaf ni fyddwn yn codi £25.00 ar y casglwr, Ar ôl y diwrnod cyntaf bydd y £25.00 y diwrnod yn cychwyn.£25.00 y dydd |
Ffi Galw Allan am Gasglu Ci Sy’n Crwydro |
£60.00 |
Treuliau |
£0.50c y milltir |
Taliadau am Weithio y Tu Allan i Oriau Swyddfa Arferol (5:00pm – 7:30am) |
£150.00 |
Ffioedd milfeddyg i’w talu gan berchennog y ci neu Gyngor Sir Fynwy. |
Ffioedd milfeddyg yn berthnasol |
Ffi ar gyfer Microsglodyn |
£20.00 |
Perchnogaeth cŵn cyfrifol
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i berchnogion sicrhau bod eu ci yn gwisgo coler a thag sy’n nodi enw a chyfeiriad y perchennog. Bellach, mae’n gyfraith bod yn rhaid i bob ci gael microsglodyn erbyn ei fod yn 8 wythnos oed a bod y manylion yn cael eu diweddaru. Rhaid i berchnogion gadw eu cŵn o dan reolaeth bob amser a pheidio â chaniatáu iddynt grwydro neu faeddu palmentydd neu ardaloedd cyhoeddus.
Sut alla i gael microsglodyn ar gyfer fy nghi?
Bellach, mae’n gyfraith bod yn rhaid i bob ci gael microsglodyn erbyn ei fod yn 8 wythnos oed a bod y manylion yn cael eu diweddaru. Gallwch ddefnyddio unrhyw filfeddygon lleol i osod microsglodyn ar eich ci ond rhaid i weithiwr proffesiynol hyfforddedig osod microsglodyn ar eich ci, e.e. milfeddyg.