Skip to Main Content

Beth yw microsglodyn?

Mae microsglodyn yn sglodyn electronig bach, tua maint gronyn o reis, a gaiff ei fewnblannu dan groen y ci. Mae’n broses syml a gaiff ei gwneud gan eich milfeddyg ac nid yw’n anafu’r ci. 

Sut mae microsglodyn yn gweithio?

Mae gan ficrosglodyn ci god unigryw. Pan gaiff hwnnw ei sganio gyda pheiriant darllen arbennig gellir ei baru gyda manylion y perchennog ar gronfa ddata y darparydd.

Pam fod microsglodyn mor bwysig?

Mae gosod microsglodyn yn eich ci yn rhoi’r cyfle gorau o gael eich ci yn ôl os yw’n mynd ar goll.

Beth yw’r gyfraith ar ficrosglodion?

Ers 6 Ebrill 2016 ymlaen mae’n ofyniad cyfreithol i bob ci yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gael microsglodyn a gwisgo coler gyda thag adnabod.

Sut medraf ddiweddaru fy manylion?

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw eich manylion cyswllt yn gyfoes er mwyn i ficrosglodyn eich chi barhau i gydymffurfio. Holwch eich darparydd am fwy o fanylion.

Cofiwch … os aiff eich ci ar goll neu os caiff ei ddwyn rydych 20 gwaith mwy tebygol o’i gael yn ôl os oes ganddo ficrosglodyn a bod y manylion yn gyfredol.