Skip to Main Content

Ydych chi’n ystyried cael ci bach newydd? 

Dyma rai ffactorau pwysig i’w hystyried cyn prynu:

  •  A fedrwch dalu’r gost a’r ymrwymiad sydd eu hangen ar gyfer chi pan ddychwelwch i’r gwaith yn dilyn COVID 19?
  • Ymchwilio’r brîd a gwneud yn siŵr fod y brîd yn gweddu i’ch ffordd o fyw e.e. egnïol vs. dim angen llawer iawn o ofal
  • Ymchwilio’r bridiwr a gofyn llawer o gwestiynau cyn i chi ymweld
  • Gofyn os yw’r ci bach wedi cael triniaeth llyngyr yn rheolaidd ers ei eni
  •  Sicrhau fod microsglodyn gan eich ci bach (mae hyn yn ofyniad cyfreithiol)
  • Sicrhau y bydd y ci bach o leiaf 8 wythnos oed cyn gadael
  • Gweld mam y ci bach a gofyn faint yw ei hoed (rhaid iddi fod o leiaf 1 oed)
  • Wrth ymweld â’r ci bach, edrych sut mae’n ymwneud gyda’i fam a’r cŵn bach eraill a anwyd yr un amser
  • Gofyn pa fwyd y mae’r ci bach yn ei fwyta a sicrhau fod y bridiwr yn rhoi digon o fwyd y ci bach i chi i barhau â’r un diet am ychydig ddyddiau ar ôl mynd gartref
  • Peidio byth deimlo dan bwysau i brynu – os nad yw’n edrych yn iawn na’n teimlo’n iawn yna mae’n debyg nad yw yn iawn! 
  • Os ydych yn penderfynu prynu, trefnu gwiriad iechyd gyda milfeddyg o fewn 48 awr o brynu’r ci bach.