Skip to Main Content

Diweddariad 24 Hydref, 2023

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau Gorchymyn Adran 20 o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i fynd â chŵn Lost Souls Sanctuary i’n gofal yn gyfreithlon. Cynhaliwyd y gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd ar 24ain Hydref o flaen y Barnwr Rhanbarth. Roedd natur y dystiolaeth gymhellol wedi arwain at yr amddiffyniad yn tynnu nôl heb ofyn am unrhyw amodau.

Lles y cŵn yw ein prif bryder o hyd ac mae pob ci yn ein meddiant yn gwneud yn dda. Awn ymlaen yn awr i ddod o hyd i gartrefi parhaol iddynt. Mae achos cyfreithiol pellach yn debygol i’w parhau ar frys i ddod â’r materion i ben mor hwylus â phosibl.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd.