O ddydd Mercher 14 Hydref, gall trigolion, busnesau ac ymwelwyr ddweud eu dweud am gynigion i wella canol pentref Magwyr, yn rhan o gam nesaf rhaglen creu lleoedd yr ardal.
Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Magwyr gyda Gwndy yn gweithio ochr yn ochr â’r dylunwyr trefol Roberts Limbrick i wahodd trigolion, busnesau ac ymwelwyr i ddweud eu dweud am gyfres o gynigion prosiect a nodwyd yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Magwyr gyda Gwndy a ddatblygwyd yn 2025.
Mae’r adborth a gafwyd yn ystod ymgynghoriad Sgwrsio Am Wella Magwyr gyda Gwndy y llynedd wedi dylanwadu ar y cynigion. Mae eu ffocws ar gyfres o enillion buddiol cyflym i wella pyrth allweddol i’r pentref a gwneud Sgwâr Magwyr yn lle mwy croesawgar i drigolion ac ymwelwyr.
Ymhlith y cynlluniau, mae troedffyrdd gwell, mannau wedi’u plannu a mannau gwyrdd gwell, gwell cysylltiadau i gerddwyr, celf gyhoeddus sy’n dathlu hunaniaeth leol, a mesurau i greu amgylchedd sy’n fwy cyfeillgar i bobl yn Sgwâr Magwyr tra’n cadw parcio i’r anabl a pharcio am gyfnodau byr.
Gall trigolion gael rhagor o wybodaeth a siarad â thîm y prosiect mewn digwyddiad galw heibio yn Eglwys y Bedyddwyr Magwyr rhwng 10am a 6pm ddydd Gwener 16 Hydref.
Bydd cynigion yr ymgynghoriad a’r holiadur ar gael ar sgwrsioamsirfynwy.co.uk a byddant ar agor tan ddydd Mercher, 4 Tachwedd 2026. Gellir codi copïau papur o’r holiadur hefyd yn swyddfa Cyngor Tref Magwyr gyda Gwndy trwy gydol cyfnod yr ymgynghoriad.
Meddai’r Cynghorydd Paul Griffiths, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae’r gymuned wedi dylanwadu ar y cynllun creu lleoedd hwn ac rydyn ni nawr yn gofyn i drigolion ein helpu i flaenoriaethu’r camau nesaf. Mae’r cynigion hyn yn canolbwyntio ar welliannau cyraeddadwy a all wella ymddangosiad Magwyr, cefnogi busnesau lleol, gwella llwybrau cerdded a chreu mannau cyhoeddus mwy croesawgar.
“Rydyn ni wedi gwrando ar adborth blaenorol ynglŷn â chadw newidiadau yn ymarferol ac yn gost-effeithiol, a buaswn i’n annog pawb sydd â diddordeb ym Magwyr gyda Gwndy i edrych ar y cynigion a rhannu eu barn.”
Gellir llenwi’r ymgynghoriad ar-lein ar www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/magwyr. Bydd adborth a gesglir yn dylanwadu ar gam nesaf y gwelliannau.
