Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd newydd gyda’r nod o sicrhau bod teithio’n fwy diogel i bawb sy’n byw yn y sir, yn gweithio yma neu’n ymweld.

Bydd y strategaeth, a fydd yn rhychwantu’r cyfnod rhwng 2026 a 2040, yn adeiladu ar y cynnydd diweddar. Bydd yn nodi sut y bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i leihau peryglon ar y ffyrdd trwy gyflymderau, ffyrdd a strydoedd, cerbydau a defnyddwyr ffyrdd mwy diogel a thrwy waith partneriaeth effeithiol.

Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd Sir Fynwy o 63 yn 2021 i 42 yn 2024. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cydnabod y gall pob gwrthdrawiad gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Little Mill

Bydd y Strategaeth yn adeiladu ar raglen eang o addysg ac ymgysylltu ynghylch diogelwch ar y ffyrdd sydd eisoes ar waith ar draws y sir. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tua 800 o blant wedi cymryd rhan mewn Hyfforddiant Cerddwyr i Blant, ac mae tua 650 o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi bod mewn gweithdai pontio gyda ffocws ar ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd a theithio’n ddiogel i’r ysgol uwchradd.

Yn ogystal, cafodd 300 o ddisgyblion hyfforddiant beicio, cafodd tua 100 o fyfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg gyflwyniadau cyn-gyrru DOMINO, ac mae’r Cyngor wedi gwneud 25 Cynllun Teithio Llesol ar gyfer Ysgolion dros y tair blynedd ddiwethaf. Gwnaethpwyd tua 85 asesiad o lwybrau i’r ysgol hefyd ers dechrau 2025 i helpu i sicrhau llwybrau diogel rhwng y cartref a’r ysgol.

Rhoddir sylw arbennig i ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed, gan gynnwys cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur a phobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Mae’r Strategaeth yn cynnig mesurau sy’n anelu at leihau nifer y defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, o leiaf 40%, erbyn 2040.

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Dylai pawb allu teithio o amgylch Sir Fynwy yn ddiogel ac yn hyderus. Er bod y ffigurau’n dangos cynnydd, gwyddom fod mwy i’w wneud o hyd i atal anafiadau difrifol ac i ddiogelu’r bobl sy’n defnyddio ein ffyrdd.

“Bydd ein strategaeth newydd yn cyflwyno dull gweithredu clir, a arweinir gan dystiolaeth, gan ein helpu i sicrhau bod ffocws buddsoddiad, addysg a gwelliannau ymarferol lle mae eu hangen fwyaf arnom. Bydd profiadau trigolion a gwybodaeth leol yn bwysig i ddylanwadu ar y gwaith hwn.”

Bydd cyfle i drigolion gynnig sylwadau am y Strategaeth ddrafft trwy ymgynghoriad cyhoeddus ar Sgwrsio Am Sir Fynwy. Cyhoeddir rhagor o fanylion cyn hir.

Tags: , ,