Mae ysgol cyfrwng Cymraeg yn Sir Fynwy wedi cael adroddiad disglair iawn yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn.
Disgrifiwyd Ysgol Gymraeg Y Ffin, Cil-y-coed, gan Estyn fel “cymuned deuluol sy’n darparu amgylchedd cynhwysol a gofalgar”.
Mae arwyddair yr ysgol ‘Dysgu chwilfrydedd, byw gyda pharch, tyfu gyda’n gilydd yn ein cymuned Gymraeg’ yn adlewyrchu’r ffordd gefnogol y mae’r ysgol yn cael ei rhedeg.
Adroddwyd bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus yn yr ysgol; yn ymddwyn yn dda ac yn dangos aeddfedrwydd a pharch at ei gilydd.
Yn ôl yr adroddiad mae Michelle Ward, Pennaeth, yn arweinydd angerddol sy’n gosod disgwyliadau uchel ar gyfer staff a disgyblion.
Mae staff yn Ysgol Gymraeg Y Ffin yn cydweithio’n llwyddiannus i ddarparu cwricwlwm diddorol i ddisgyblion. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, yn ogystal â sgiliau eraill.
Mae’r cwricwlwm yn eang, yn berthnasol ac wedi’i wreiddio mewn gweithgareddau dysgu ystyrlon sy’n llwyddo i adeiladu ar lawer o sgiliau. Mae dull ysgol gyfan o ddatblygu creadigrwydd yn gryf iawn, ac mae gweithgareddau ar draws y cwricwlwm yn cynnig cyfleoedd buddiol i ddisgyblion gymhwyso sgiliau ehangach.
Mae Ysgol Gymraeg Y Ffin yn gartref i’r Ganolfan Drochi Iaith Gymraeg i hwyrddyfodiaid, sy’n cynnig addysg Gymraeg ddwys i helpu plant i gyrraedd lefel rhuglder y mae ei angen i drosglwyddo i ysgol cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg, y Cyng. Laura Wright:
“Mae’r adroddiad hwn gan Estyn yn amlygu’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn Ysgol Gymraeg Y Ffin.
“Mae’n dyst i’r holl waith caled sy’n cael ei wneud gan y staff a’r disgyblion yn yr ysgol bob dydd.”
Os hoffech ystyried addysg drochi hwyr cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn, cysylltwch ag Ysgol Y Ffin yn uniongyrchol drwy ffonio 01291 420331. I gael ragor o wybodaeth, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/welsh-immersion-centre/