
E-bost twyllodrus yn honni ei fod o’r Groes Goch Brydeinig
Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn adroddiadau o e-bost ffug yn cylchredeg yn y gymuned. Mae’r neges yn honni ar gam ei bod gan y Groes Goch Brydeinig ac yn ceisio denu pobl i roi eu manylion banc trwy borth gwe mewn perthynas â Hawliad Grant Llifogydd – sydd wedi cau ers amser maith.
Nid yw’r e-bost hwn yn ddilys. Ni fydd y Groes Goch Brydeinig na Chyngor Sir Fynwy byth yn gofyn i chi roi manylion banc, cyfrineiriau, na gwybodaeth ariannol bersonol arall trwy ddolen ddigymell.
Os ydych wedi derbyn E-bost o’r fath – PEIDIWCH â chlicio ar unrhyw ddolenni neu atodiadau. PEIDIWCH â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol neu ariannol. PEIDIWCH ag ymateb i’r neges.
Mae e-byst gwe-rwydo yn aml yn: Defnyddio iaith fygythiol neu sy’n eich brysio; Cynnwys camgymeriadau sillafu neu ramadeg; Dod o gyfeiriadau sy’n ymddangos yn anarferol neu’n anghywir neu’n eich cyfeirio at wefannau nad ydynt yn cyfateb i’r sefydliad maen nhw’n honni eu bod yn dod ohono.
Os yw rhywbeth yn teimlo’n o’i le – stopiwch a gwiriwch. Gallwch hofran dros ddolenni i weld ble maen nhw’n arwain mewn gwirionedd, a chysylltu â’r sefydliad yn uniongyrchol gan ddefnyddio manylion dibynadwy o’u gwefan swyddogol. Rydym yn annog derbynwyr i barhau i ddweud am y twyll hwn. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn neu unrhyw e-bost amheus arall – gallwch roi gwybod am hyn drwy: Reporting cyber crime and fraud or phishing attempts – Report Fraud neu danfonwch .at : report@phishing.gov.uk
Os ydych chi’n credu y gallech fod wedi rhannu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth banc, cysylltwch â’ch banc ar unwaith a gofynnwch am gyngor.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i godi ymwybyddiaeth o’r e-bost ffug hwn ac i helpu i ddiogelu ein cymuned ehangach. Rhannwch y neges hon gyda ffrindiau, teulu a chymdogion – yn enwedig y rhai a allai fod yn fwy agored i sgamiau ar-lein.


Photo Credit: South Wales Fire and Rescue
Gwybodaeth ac Cymorth ynghylch Llifogydd
Neges gan Safonau Masnach
Mae Safonau Masnach yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus o fasnachwyr twyllodrus sy’n manteisio ar bobl sy’n agored i niwed ac mewn sefyllfa anodd yn dilyn Storm Claudia.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, dylai preswylwyr a pherchnogion busnes beidio â chytuno ar waith gan grefftwyr sy’n curo ar eu drysau heb wahoddiad i gynnig eu gwasanaethau. Yn hanesyddol, bydd troseddwyr o’r math hwn yn ceisio manteisio ar ddigwyddiadau diweddar, gan greu ymdeimlad gormodol o frys neu risg, sy’n golygu y gall preswylydd neu fusnes deimlo dan bwysau i gytuno ar y gwaith.
Os bydd rhywun yn curo ar eich drws ac yn dweud bod angen atgyweiriadau neu waith cynnal ar eich cartref, byddwch yn amheus a chau’r drws.
Mae Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sy’n wynebu costau atgyweirio i:
- Gael argymhellion gan ffrindiau neu deulu.
- Ceisio cael tri dyfynbris bob tro.
Gall y rhai sydd wedi’u heffeithio ystyried cynlluniau masnachwyr cymeradwy i ddod o hyd i fusnesau dibynadwy ar gyfer atgyweiriadau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- TrustMark – https://www.trustmark.org.uk/homeowne
- Buy with Confidence – https://www.buywithconfidence.gov.uk
- Which Trusted Traders – https://trustedtraders.which.co.uk
- Care and Repair (i drigolion dros 60 oed) – https://careandrepair.org.uk
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddod o hyd i fusnesau dibynadwy ar wefan Cyngor ar Bopeth:
Dod o hyd i fasnachwr a gwirio y gallwch ymddiried ynddynt – Citizens Advice
Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn annog trigolion i adrodd unrhyw bryderon am alwyr amheus ar garreg y drws i Ganolfan Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu 0808 223 1144 ar gyfer galwadau yn Gymraeg.
Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen
Ydych chi wedi cael eich effeithio gan y llifogydd diweddar?
Os ydych chi’n berchennog tŷ neu’n denant preifat ac yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf isod, efallai y gall Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen eich cefnogi:
Yn 60 oed neu’n hŷn
Yn 50 oed neu’n hŷn gyda cholled golwg neu glyw, yn byw gyda dementia, neu’n oroeswr strôc
Yn 50 oed neu’n hŷn ac wedi’ch rhyddhau’n ddiweddar o’r ysbyty
Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen yn elusen sy’n ymrwymo i helpu pobl hŷn i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi.
Gall ein tîm roi cyngor cyfeillgar, eich tywys drwy atgyweiriadau, a’ch helpu i osgoi adeiladwyr twyllodrus drwy eich cysylltu â chontractwyr dibynadwy ac ag enw da. Gallwn hefyd ddarparu cefnogaeth dechnegol i sicrhau bod unrhyw waith a wneir yn ddiogel ac yn briodol.
Sefydliadau Allanol
Natural Resources Wales / Check river levels, rainfall and sea data