Skip to Main Content

Yn Sir Fynwy, gall y canlynol achosi llifogydd:

  • Glaw trwm am gyfnod hir sy’n effeithio ar lefelau afonydd;
  • Llanw uchel sy’n gorlifo glannau afonydd ac amddiffynfeydd;
  • Cwlferi wedi’u blocio;
  • Dŵr o ddraeniau yn llifo yn ôl.

Beth bynnag yw’r achos, gall yr effaith ar gymunedau uniongyrchol fod yn bellgyrhaeddol.  Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymwybodol o’r problemau y gall llifogydd eu hachosi ac mae’n ceisio sicrhau bod digon o drefniadau ar waith i dderbyn rhybuddion llifogydd, i fonitro amodau lleol ac ymateb i geisiadau am gymorth gan y gymuned.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd i eiddo sydd mewn perygl pan fydd llifogydd yn taro’r Afon Wysg, y Gwy a’r Fynwy.  Mae Awdurdodau Lleol, y Gwasanaethau Brys, Cyfleustodau a gorsafoedd radio lleol hefyd yn cael gwybod pan ddisgwylir llifogydd.


Diogelwch rhag llifogydd

Gall llifogydd ladd – ceisiwch gadw’n ddiogel bob amser. Peidiwch â cherdded na gyrru trwy ddŵr llifogydd. Gall hyd yn oed ddŵr bas iawn sy’n llifo’n gyflym eich taro drosodd a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn ddigon i wneud i’ch car arnofio.

Mae dŵr llifogydd yn aml wedi’i lygru â chemegau a charthffosiaeth felly gwnewch eich gorau glas i osgoi dod i gyswllt â’r dŵr. Gofynnwch am gyngor meddygol os ydych wedi dod i gyswllt â dŵr llifogydd.

Peidiwch byth â cheisio nofio drwy ddŵr llifogydd. Nid yn unig y gallai’r dŵr fod wedi ei lygru, ond gallech gael eich ysgubo ymaith neu eich taro gan rywbeth sy’n arnofio yn y dŵr.


Gall llifogydd ddigwydd yn gyflym iawn ac yn annisgwyl, felly, nawr yw’r amser i feddwl beth fyddech chi’n ei wneud pe bai llifogydd. Peidiwch â’i adael tan i’r llifogydd daro. Gorau oll y byddwch chi wedi paratoi, yr hawsaf fydd hi i chi ymdopi ag effeithiau llifogydd.

Ydych chi mewn perygl?

Cliciwch ar y ddolen isod i ganfod a ydych mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd, ac os ydych chi, sut allwch chi fynd ati i amddiffyn eich hun, eich cartref a’ch busnes.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Gweld eich risg llifogydd ar fap (Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru)

Gwnewch yn siŵr bod eich dogfennau yswiriant yn gywir a chyfredol a bod eich yswiriant yn ddigonol fel bod gennych sicrwydd os bydd llifogydd.

Ceisiwch storio pethau gwerthfawr ac eitemau personol mewn cwpwrdd uchel neu i fyny’r grisiau.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble i ddiffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr a sut i wneud hynny.

Ystyriwch brynu bagiau tywod, neu fyrddau llifogydd i gyfeirio dŵr i ffwrdd o’ch eiddo os yw’r perygl o lifogydd yn uchel.

Cadwch ddogfennau cartref i fyny’r grisiau mewn lle diogel.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am sut i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd a beth i’w wneud os yw llifogydd yn effeithio arnoch.

Am ragor o wybodaeth am “Ganllawiau i bobl hŷn” a “Chanllawiau i fusnesau” ynghyd â gwybodaeth am “Yr hyn i’w wneud Cyn Llifogydd, Yn Ystod Llifogydd ac Ar ôl Llifogydd” cliciwch ar y ddolen isod:

Cyfoeth Naturiol Cymru / Paratoi ar gyfer llifogydd

Er mwyn sicrhau bod eich eiddo wedi’i baratoi’n ddigonol rhag llifogydd, ewch i wefan “Association of British Insurers” drwy glicio ar y ddolen isod:

Floods | Flooding | What shall I do when there’s a flood? | ABI

Cliciwch ar y ddolen isod i weld y rhybuddion llifogydd sydd wedi eu cyhoeddi ar hyn o bryd:

http://www.naturalresources.wales/flooding/check-flood-warnings/?lang=en

neu ffoniwch FLOODLINE ar 0345 988 1188

COFRESTRU I DDERBYN RHYBUDDION LLIFOGYDD

CYFOETH NATURIOL CYMRU (CNC) sy’n darparu’r gwasanaeth hwn.

Gallwch gael rhybuddion yng Nghymru dros y ffôn, mewn e-bost neu neges destun os yw eich cartref neu eich busnes mewn perygl o lifogydd. I gofrestru i gael rhybuddion llifogydd, bydd angen i chi ddarparu:

y cyfeiriad neu’r lleoliad rydych chi’n ei gofrestru

rhif ffôn fel y gellir cysylltu â chi ddydd neu nos

cyfeiriad e-bost

Mae’r gwasanaeth am ddim.

Cliciwch ar y ddolen i fynd â chi i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: https://naturalresources.wales/flooding/flood-warning-service/?lang=en

Gallwch hefyd gofrestru eich manylion, eu diweddaru neu ganslo’ch cyfrif drwy ffonio Floodline:

Rhif ffôn: 0345 988 1188

Typetalk: 0345 602 6340

Gwasanaeth 24 awr

Gallwch ddewis cael rhybuddion a gohebiaeth naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mewn argyfwng gall CNC anfon gwybodaeth rhybuddio atoch yn Saesneg yn hytrach na Chymraeg.

Llinell Wybodaeth Rhybuddion Llifogydd

Mae Floodline yn darparu gwybodaeth a chyngor byw am lifogydd a sut i baratoi ar gyfer effeithiau llifogydd  neu ymdopi â nhw, a hynny 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Rhif ffôn: 0345 988 1188

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymwybodol o’r problemau y gall llifogydd eu hachosi. Mae’n ceisio sicrhau bod y trefniadau sydd ar waith yn ddigonol o ran cael rhybuddion llifogydd, i fonitro amodau lleol ac ymateb i geisiadau am gymorth gan y gymuned.

Cyn llifogydd, rydyn ni’n:

Paratoi ar gyfer llifogydd posibl trwy gynllunio, hyfforddi a chynnal ymarferion;

Sicrhau bod system ymateb 24 awr ar waith;

Monitro lleoliadau sy’n agored i niwed;

Ymgynghori â’r gymuned mewn ardaloedd allweddol sy’n agored i lifogydd.

Yn ystod llifogydd, rydyn ni’n:

Siarad â’r holl asiantaethau/sefydliadau dan sylw;

Rhoi cyfarwyddiadau i’n gweithlu i ymateb i anghenion y gymuned;

Cyflenwi bagiau tywod ar gais trwy Weithrediadau CSF;

Cynnig tai dros dro i deuluoedd os yw llifogydd yn effeithio arnynt a hynny a bod angen drwy adran Tai CSF.

Ar ôl llifogydd, rydyn ni’n:

Cynnig cyngor ychwanegol ar ddiogelwch bwyd a chyngor arall ar iechyd y cyhoedd: Adran Iechyd yr Amgylchedd CSF.

Clirio priffyrdd cyhoeddus a thir cyhoeddus yr effeithir arnynt: Adrannau Priffyrdd/ Ailgylchu a Gwastraff CSF

Eich cynorthwyo i ddod o hyd i rywle i fyw os nad oes gennych yswiriant: Adran Tai CSF.

Cynorthwyo i ddod o hyd i grefftwyr ag enw da trwy gynllun TrustMark: Safonau Masnach CSF.

Os yw’r llifogydd wedi effeithio ar nifer fawr o eiddo, bydd y cyngor yn gweithio gydag asiantaethau eraill i ddarparu cyfleusterau canolog i gynorthwyo pawb sy’n teimlo effaith y llifogydd. Bydd trefniadau o’r fath yn cael eu cyhoeddi ar y pryd.

BAGIAU TYWOD

Nid oes gofyniad statudol i awdurdodau lleol ddarparu bagiau tywod i gynorthwyo trigolion neu fusnesau preifat er mwyn eu hamddiffyn rhag llifogydd.

Serch hynny, byddwn yn cynorthwyo ble y gallwn ar sail blaenoriaeth, ac yn ôl yr adnoddau sydd ar gael.

Ffoniwch 01633 644644 a gofynnwch a oes modd i chi siarad â’r adran berthnasol yn y Cyngor.

Mae record diogelwch da iawn gan gronfeydd dŵr yn y DU. Mae cronfeydd dŵr yn cael eu cynnal yn ofalus sy’n golygu bod llifogydd o gronfeydd dŵr yn annhebygol iawn.

O dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 paratowyd mapiau llifogydd cronfeydd dŵr ar gyfer cronfeydd dŵr mawr sy’n dal dros 25,000 metr ciwbig o ddŵr. 

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gydlynu cynlluniau brys ar gyfer llifogydd o gronfeydd dŵr a sicrhau bod paratoadau da ar gyfer cymunedau. Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddatblygu’r cynlluniau hyn.

Er bod cynlluniau llifogydd ar gyfer cronfeydd dŵr dal i fod wrthi’n cael eu datblygu, mae gan awdurdodau lleol eisoes gynlluniau cyffredinol i ymateb ar frys, a gellir eu defnyddio i ymateb i unrhyw argyfwng.

Sut i ddefnyddio mapiau llifogydd ar gyfer cronfeydd dŵr

Mae mapiau llifogydd cronfeydd dŵr ar gael ar-lein i’ch helpu i ddarganfod a allech chi gael eich effeithio gan lifogydd o gronfa ddŵr. Gwiriwch eich perygl o lifogydd ar fap (Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru)

Er bod llifogydd o gronfeydd dŵr yn annhebygol iawn, gall fod yn ddefnyddiol i chi ganfod a ydych chi’n byw neu’n gweithio mewn ardal a allai gael ei heffeithio gan lifogydd. Os ydych chi, efallai yr hoffech feddwl am yr hyn y gallech ei wneud pe bai argyfwng yn digwydd.

Cofiwch mai dim ond mapiau llifogydd ar gyfer cronfeydd dŵr mawr sy’n cael eu harddangos. Cronfeydd dŵr mawr yw’r rhai sy’n dal dros 25,000 metr ciwbig o ddŵr.

Mae’r mapiau’n dangos yr ardal fwyaf a allai ddioddef llifogydd pe bai cronfa ddŵr yn methu, ac yn rhyddhau’r dŵr sydd ynddi. Mae’r mapiau yn ganllaw yn unig ac nid ydynt yn rhagfynegi’r hyn fydd yn digwydd.

Paratoi ar gyfer llifogydd o gronfeydd dŵr

I fod yn barod ar gyfer llifogydd o gronfeydd dŵr dylech:

Yr hyn y mae’r perygl yn ei olygu i chi. Defnyddiwch fapiau llifogydd y gronfa ddŵr i weld a ydych chi’n byw neu’n gweithio mewn ardal a allai gael ei heffeithio gan lifogydd o gronfa ddŵr;

Cynlluniwch ble i fynd os cewch eich dal mewn llifogydd o gronfa ddŵr;

Paratowch fag y gallwch gydio ynddo neu becyn sy’n cynnwys pethau y gallai fod eu hangen arnoch mewn argyfwng;

Cofiwch pwy y byddai angen i chi gysylltu â nhw, a sut;

Byddwch yn wyliadwrus ac yn barod i weithredu’n gyflym er mwyn symud i fan diogel.

Beth i’w wneud os bydd argyfwng cronfa ddŵr

Gallai llifogydd o gronfeydd dŵr fod yn wahanol iawn i fathau eraill o lifogydd. Gallai ddigwydd gydag ychydig iawn o rybudd neu heb rybudd o gwbl, ac efallai y bydd angen i chi ddianc ar unwaith. Gall fod yn anniogel ceisio lloches rhag llifogydd i fyny’r grisiau. Efallai y bydd angen i chi ymateb cyn y gall y gwasanaethau brys eich cyrraedd. Mae’n bwysig:

Cadwch eich hun ac eraill i ffordd o berygl. Symudwch i ffwrdd o’r gronfa ddŵr, gan gadw at dir uwch, os gallwch chi wneud hynny’n ddiogel;

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi galw 999 os yw pobl wedi cael anaf neu os oes bygythiad i fywyd;

Peidiwch â cherdded na gyrru trwy ddŵr llifogydd;

Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys yn yr ardal;

Ceisiwch beidio â chynhyrfu, meddyliwch cyn gweithredu a cheisiwch dawelu meddyliau pobl eraill;

Edrychwch am anafiadau – cofiwch helpu eich hun cyn ceisio helpu eraill.

Dilynwch eich Cynllun ‘Diogelu’r Cartref’ neu ‘Gynllun Personol ar gyfer Llifogydd’ os oes gennych un.

Ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 i glywed y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer eich ardal.

Beth i’w wneud os bydd llifogydd

Gwrandewch ar yr orsaf radio/teledu yn lleol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd.

Symudwch eitemau gwerthfawr, ffotograffau ac eitemau personol i le diogel e.e. i fyny’r grisiau.

Os yn bosib, symudwch rygiau a dodrefn ysgafn i fyny’r grisiau.

Codwch y llenni allan o gyrraedd dŵr llifogydd.

Codwch eitemau trydanol trwm fel oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi a’u rhoi ar frics.

Byddwch yn barod i ddiffodd nwy a thrydan (gofynnwch am help a bod angen).

Er mwyn atal dŵr llifogydd rhag mynd i mewn i’ch cartref; rhowch blygiau mewn sinciau a’u pwyso i lawr gyda gwrthrychau trwm. Paciwch dywelion neu lieiniau o amgylch bibellau sy’n cario dŵr i mewn i’r tŷ a datgysylltu peiriannau golchi dillad a pheiriannau peiriant golchi llestri i rwystro dŵr rhag llifo’n ôl. Hefyd caewch gloriau toiledau a rhoi  rhywbeth trwm arnynt.

Rhowch fagiau tywod neu fyrddau llifogydd yn eu lle – ond gwnewch yn siŵr bod aer yn gallu llifo drwy’r eiddo.

Dewch o hyd i’ch ‘Pecyn Argyfwng’ a’ch ‘Bag Brys’ os oes gennych un, ac os yw’n bosibl, byddwch yn barod i symud eich teulu ac anifeiliaid i fyny’r grisiau neu i le diogel y gellir dianc ohono.

Rhybuddiwch eich cymdogion, yn enwedig yr henoed.

Gwnewch gymaint ag y gallwch yng ngolau dydd. Bydd gwneud unrhyw beth yn y tywyllwch yn llawer anoddach, yn enwedig os yw’r trydan yn methu.

Byddwch yn ddiogel mewn llifogydd

Peidiwch â gadael eich cartref na mynd i mewn i ddŵr llifogydd oni bai eich bod yn cael gwybod yn uniongyrchol gan y gwasanaethau brys i wneud hynny. Gall dŵr llifogydd fod yn hynod beryglus a gall guddio peryglon.

Peidiwch â cheisio cerdded na gyrru trwy ddŵr llifogydd. Gall chwe modfedd o ddŵr sy’n llifo’n gyflym eich taro drosodd ac mae dwy droedfedd yn ddigon i’ch car arnofio.

Gall gorchuddion tyllau archwilio ddod i ffwrdd ac efallai y bydd peryglon eraill na ellwch eu gweld.

Cofiwch osgoi dod cyswllt â dŵr llifogydd lle bo hynny’n bosibl gan y gallai fod wedi’i lygru â charthffosiaeth neu gemegau.

Beth i’w wneud ar ôl llifogydd

Os ydych wedi gadael eich eiddo, gofynnwch i’r gwasanaethau brys a yw’n ddiogel i ddychwelyd.

Cymerwch ofal wrth ddychwelyd i’ch eiddo. Gall y llifogydd fod wedi achosi peryglon cudd, fel difrod strwythurol a halogiad.

Os yw’n bosibl, tynnwch luniau o’r difrod a wnaed i’ch eiddo.

Ffoniwch Linell Gymorth Brys eich cwmni yswiriant (24 awr) cyn gynted â phosibl.  Byddant yn gallu rhoi gwybodaeth o ran delio â’ch hawliad, a rhoi cymorth i gael pethau’n ôl i’r arfer.