Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ennill achrediad fel Sefydliad Llythrennedd Carbon Efydd, gan dynnu sylw at ymrwymiad y cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y sefydliad, a gweithio tuag at ddyfodol di-garbon.

Diffinnir Llythrennedd Carbon fel “Ymwybyddiaeth o gostau carbon ac effeithiau gweithgareddau bob dydd, a’r gallu a’r ysgogiad i leihau allyriadau, fel unigolion, fel cymunedau a fel sefydliad.” Mae’n seiliedig ar ddiwrnod o ddysgu a chymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Daeth Cyngor Sir Fynwy i ymgysylltu â Llythrennedd Carbon am y tro cyntaf pan gafodd sawl aelod o staff hyfforddiant ochr yn ochr â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Ngwent. Nawr, gall staff y Cyngor gyflwyno’r hyfforddiant yn fewnol i swyddogion, cynghorwyr lleol ac aelodau o’r gymuned leol, ac o ganlyniad mae tua 115 o bobl wedi cael yr hyfforddiant hyd yn hyn ac wedi mynd ymlaen i gael ardystiad ffurfiol Llythrennedd Carbon.

Er mwyn ennill ardystiad Llythrennedd Carbon, rhaid i ddysgwyr wneud dau addewid i leihau allyriadau carbon, un fel unigolyn ac un yn rhan o grŵp.

Trwy hyfforddi swyddogion y Cyngor, aelodau etholedig, a gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol lleol, ein nod yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i leihau allyriadau carbon, a’r hyder i rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu gydag eraill. Mae dod yn Sefydliad Llythrennedd Carbon Efydd yn dangos mor werthfawr rydyn ni’n gweld hyfforddiant Llythrennedd Carbon. Mae wedi’i gynllunio i helpu eraill i ddeall sut y gall hyfforddiant o’r fath gyfrannu at leihau allyriadau ar draws y sir gyfan.

Meddai’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Catrin Maby: “I Gyngor Sir Fynwy, mae dod yn sir ddi-garbon wrth galon ein diben, ac mae cymryd camau i leihau allyriadau carbon ein hunain ac yn y gymuned ehangach yn allweddol i’r ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Dyma pam rydw i mor falch ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel Sefydliad Llythrennedd Carbon Efydd.”

Meddai Dave Coleman, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Prosiect Llythrennedd Carbon: “Mae Llythrennedd Carbon yn sgil hanfodol, sy’n hollbwysig i bob gweithle, cymuned a man astudio. Mae’n rhoi gwybodaeth sylfaenol, ac yn gatalydd i rymuso pobl i weithredu dros yr hinsawdd, ond dim ond y cam cyntaf yw Llythrennedd Carbon. Mae’r camau a gymerir ac a addewir gan ddysgwyr yn rhan o’u Llythrennedd Carbon yn cael effaith uniongyrchol o fewn eu sefydliad, fodd bynnag, cynnal y camau hyn a chymryd camau pellach, gyda chefnogaeth diwylliant sefydliad sydd wedi ennill ardystiad Llythrennedd Carbon, sy’n dod â’r budd pennaf i gyfranogwyr a’u sefydliadau. Trwy ddod yn Sefydliad Llythrennedd Carbon Efydd achrededig, mae Cyngor Sir Fynwy wedi dangos ei ymrwymiad i weithredu go iawn mewn ffordd garbon isel, cael effaith amgylcheddol ac economaidd, ac adeiladu dyfodol carbon isel i ni i gyd.”

Tags: , , ,