Mae Benthyg Cil-y-coed, a elwir hefyd yn ‘Llyfrgell Pethau’, wedi’i lansio’n swyddogol yng Nghil-y-coed.
Diolch i gefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy, Benthyg Cymru a TogetherWorks, mae Cil-y-coed wedi dod yn un o’r safleoedd Benthyg diweddaraf yn Sir Fynwy.
Mae Benthyg Cil-y-coed yn siop un stop lle gall pobl fenthyca eitemau sydd eu hangen arnynt ond nad ydynt yn berchen arnynt, gan arbed arian a lle yn eu cartrefi.
Mae hyn yn cynnwys offer ar gyfer adloniant, eitemau cartref neu offer gardd. Mae hefyd yn caniatáu i breswylwyr roi pethau nad oes eu hangen arnynt fwyach, gan helpu i leihau gwastraff, i gyd wrth gyfarfod a rhannu gwybodaeth a sgiliau ag eraill.
Mae Benthyg Cil-y-coed wedi’i leoli yn TogetherWorks a bydd ar agor bob dydd Mawrth, rhwng 1.30pm a 2.30pm.
Sefydlwyd Benthyg Cymru gyntaf yn 2017, ac ers hynny mae wedi tyfu ledled Cymru, ar ôl derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru oherwydd ei botensial i gyfrannu at gyflawni ei dargedau dim gwastraff erbyn 2050.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles: “Mae Benthyg Cil-y-coed yn ychwanegiad gwych i’r dref.
“Beth am alw heibio i weld beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig.
“Gallech hyd yn oed roi rhywbeth a allai fod o ddefnydd i rywun arall sy’n defnyddio’r gwasanaeth.” Cefnogir Benthyg Cil-y-coed gan Brosiect Economi Gylchol Cyngor Sir Fynwy: Prosiect Economi Gylchol – Sir Fynwy Darganfyddwch fwy am waith Benthyg Sir Fynwy yma
Tags: Monmouthshire, news