Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch i gyhoeddi lansio ei Raglen STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Nod y rhaglen, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yw denu busnesau newydd i Sir Fynwy a sefydlu cysylltiadau cryf rhwng busnesau ac ysgolion, hyrwyddo dysgu STEM ac ehangu llwybrau Ôl 16. Mae’r rhaglen hefyd yn ymchwilio ymarferoldeb sefydlu canolfan prentisiaeth yn Sir Fynwy.

Yn y lansiad, a gynhaliwyd yn Ysgol 3-19 Brenin Harri VIII yn y Fenni ddydd Mercher 2 Mehefin 2025, dangoswyd yr adnoddau ac ysgogwyd cyffro am y prosiect.

Yn y digwyddiad, bu Ysgol Gynradd Goytre Fawr yn rhannu eu llwyddiannau gyda’u car Goblin G2 wedi’i addasu, y ‘Cheddar Chariot’, y buont yn ei rasio yn nigwyddiad Greenpower Goblin Meisgyn. Pwysleisiodd Chris Fall, Arweinydd Dylunio Busnes STEM lleol Peter Jones ILG, bwysigrwydd sgiliau STEM ar gyfer gyrfaoedd mewn diwydiannau lleol, gan ysbrydoli dysgwyr i ddilyn pynciau STEM ar ôl 16 oed.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys taith o adran dechnoleg yr ysgol, gan dynnu sylw at brosiect ailgylchu Labordy Plastig.

Datblygwyd rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant a chefnogaeth drwy gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, Coleg Gwent, busnesau lleol ac ysgolion ar draws Sir Fynwy. Mae’r adnoddau ar gyfer pob ysgol yn cynnwys codio, roboteg, peirianneg ac offer argraffu 3D, gyda rhwydweithiau ysgol-i-ysgol, gweithdai dosbarth a chyswllt â busnesau.

Dywedodd y Cyng Laura Wright, Aelod Cabinet dros Addysg ar Gyngor Sir Fynwy: “Fel cyngor, mae ein ffocws nid yn unig ar helpu myfyrwyr i basio eu arholiadau ond hefyd ar roi’r sgiliau a fydd yn fanteisiol iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’n hanfodol fod ein hysgolion yn rhoi’r wybodaeth a’r galluoedd mae dysgwyr eu hangen i ffynnu yn y dyfodol.”

Nod y rhaglen yw cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dewis pynciau STEM ar gyfnodau allweddol 4 a 5, ehangu ystod cymwysterau STEM a’r llwybrau sydd ar gael a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant STEM.

Bydd y cynllun yn ymestyn adnoddau i ysgolion yn ystod tymor yr haf, gyda hyfforddiant a chefnogaeth yn eu lle ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Ychwanegodd y Cyng Laura Wright: “Dyma ddechrau rhaglen STEM newydd yn Sir Fynwy ac edrychaf mlaen at ymweld ag ysgolion ar draws y flwyddyn academaidd nesaf a gweld y rhaglen yn cael ei sefydlu mewn dysgu bob dydd.”

Darllen mwy >

Rhaglen STEM – Monmouthshire

Sir Fynwy busnes – Monmouthshire

Tags: , ,