Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect Cronfa Ffyniant Bro Trafnidiaeth Integredig Cas-gwent.
Yn ystod cyfarfod llawn o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 17eg Gorffennaf 2025, cytunodd aelodau’r Cyngor i fwrw ymlaen â phrosiect Cronfa Ffyniant Bro Trafnidiaeth Integredig Cas-gwent.
Nod y prosiect yw gwneud Gorsaf Cas-gwent yn fwy deniadol i bobl leol ac ymwelwyr. Bydd lle yn cael ei greu i fysiau lleol ddod i’r orsaf a throi o gwmpas. Bydd llwybrau cerdded a beicio o’r dref i’r orsaf yn cael eu gwella. Bydd cyfleusterau yn yr orsaf, fel toiledau cyhoeddus, yn cael eu cyflwyno.
Mae’r Cyngor wedi dyrannu £1,407,692 o gyllid cyfatebol cyfalaf i gefnogi’r prosiect, a fydd yn cael ei dynnu dros y cyfnod o 2025/26 i 2028/29. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i archwilio mecanweithiau cyllido amgen. Gwerth cyffredinol y prosiect, gan gynnwys y cyllid cyfatebol, yw £7,467,600.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Sir Fynwy: “Mae cymeradwyo prosiect Cronfa Ffyniant Bro Trafnidiaeth Integredig Cas-gwent yn garreg filltir arwyddocaol i Gas-gwent a’r ardaloedd cyfagos. Bydd hyn yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r orsaf, mynd ar fws i’r orsaf, cerdded neu feicio i’r orsaf. Dyma fydd un o’r ffyrdd y byddwn yn lleihau tagfeydd traffig yn y dref.
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Tref Cas-gwent a phawb yn y dref i sicrhau bod y prosiect yn cael ei weithredu’n llwyddiannus.
Tags: Chepstow, Monmouthshire, news, Transport