Mae tîm maethu ymroddedig Cyngor Sir Fynwy yn chwilio am breswylwyr a all wneud gwahaniaeth ym mywydau plant lleol yn ystod pythefnos Gofal Maeth eleni.
Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth rhwng 12 Mai a 25 Mai 2025. Nod yr ymgyrch flynyddol hon, a drefnir gan y Rhwydwaith Maethu, yw codi ymwybyddiaeth o’r angen am ofalwyr maeth, dangos sut mae maethu yn newid bywydau, a chodi proffil maethu.
Os gallech gael effaith gadarnhaol ar fywyd plentyn drwy ddarparu cartref iddynt, neu os hoffech ddysgu mwy am faethu yn Sir Fynwy, cysylltwch â’n tîm heddiw.
Rydym yn croesawu unigolion o bob cefndir ac ar gyfer pob math o faethu, gan gynnwys seibiannau byr, lleoliadau hirdymor, lleoliadau brys a maethu rhieni a phlant.
Os ydych yn meddwl y gallai hyn fod yn addas i chi, cysylltwch â’r tîm am drafodaeth gychwynnol.
Drwy ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Fynwy, gallwch helpu plant a phobl ifanc lleol i aros yn eu cymuned. Bydd gennych eich gweithiwr cymdeithasol ymroddedig eich hun, hyfforddiant llawn, mynediad i’n gwasanaeth seicoleg, cymorth y tu allan i oriau a grwpiau cymorth rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnig ffioedd a lwfansau hael, cymhorthdal treth gyngor o 30%, nofio am ddim ar draws pyllau nofio MonLife ac ystod eang o wobrau a buddion eraill.
I gysylltu â’n tîm, ewch i https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni.
Dywedodd y Cynghorydd Sirol Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae gofalwyr maeth Maethu Cymru Sir Fynwy yn chwarae rhan bwysig yn ein sir, gan ganiatáu i blant a phobl ifanc aros yn agosach at eu cartrefi a’u cymunedau. Os ydych yn credu y gallech chi fod yn rhan o’r tîm gwych a chefnogol hwn, cysylltwch â ni.”
Ar 22 Mai, bydd Maethu Cymru Sir Fynwy yn cynnal ei Ddigwyddiad Gwerthfawrogi blynyddol. Bydd y digwyddiad yn gyfle i ofalwyr maeth Sir Fynwy ddod at ei gilydd ac yn galluogi’r Cyngor i ddiolch iddynt am eu holl waith yn darparu cartrefi cariadus a meithringar i blant mewn gofal.
Nododd y Cynghorydd Chandler: “Mae gennym gymuned wych o ofalwyr maeth, ac nid yw dweud diolch byth yn ymddangos yn ddigon. Mae eu hymroddiad yn rhyfeddol ac mae bob amser yn fy synnu i a fy nghydweithwyr. Mae’r digwyddiad gwerthfawrogi yn ffordd fach o ddangos i’n gofalwyr faint rydyn ni’n gwerthfawrogi eu gwaith.”
Dros gyfnod y pythefnos, mae’r tîm yn cynnal sesiynau galw heibio ledled y sir. Os ydych am ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth, dewch draw i siarad â’r tîm:
· 14 Mai – 12.30-2.30pm Canolfan Arddio Morris’s of Usk
· 19 Mai – 10.30am-12.30pm Waitrose Trefynwy
· 20 Mai – 10am-12pm Canolfan Arddio’r Fenni a 10am-12pm Tesco Cas-gwent
· 23 Mai – 10.30am-12.30 Canolfan Arddio Cas-gwent
Tags: fostering, Monmouthshire, news