Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn hyd at £8.4 miliwn mewn cyllid trafnidiaeth ar draws y Sir i gyflawni ei brosiectau.

Mae’r cyllid yn cynnwys cyfraniadau gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, y Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Ffyrdd Gwydn, Cyfalaf a Refeniw Diogelwch Ffyrdd, 20MYA a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Drwy gyllid Llywodraeth Cymru, bydd y Cyngor yn gallu parhau i weithredu ei brosiectau trafnidiaeth ar draws y sir, sy’n anelu at wella mynediad, diogelwch a seilwaith. Mae’n werth nodi bod y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu fesul prosiect ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith cyffredinol i gynnal a chadw ein rhwydwaith o briffyrdd.

Mae’r prosiectau y dyfarnwyd arian iddynt yn cynnwys hyfforddiant diogelwch ffyrdd cymunedol, prosiectau seilwaith bysiau, prosiectau gwydnwch ffyrdd i liniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a chyllid i gefnogi gweithredu terfynau cyflymder 20mya.

Y Gronfa Teithio Llesol sydd wedi darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid. Mae ffocws strategol Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar deithiau pwrpasol hyd at dair milltir. Mae hyn yn golygu sicrhau mai teithio llesol yw’r dewis naturiol cyntaf ar gyfer teithiau lleol drwy wella’r seilwaith cerdded a gyrru er mwyn cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol yn ein cymunedau. Mae prosiectau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ar draws y Sir i ddatblygu ymhellach gysylltedd ein rhwydwaith teithio llesol a chefnogi ein hymateb ar y cyd i’r argyfwng hinsawdd a natur.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad am y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Grantiau Trafnidiaeth yn caniatáu i ni fel Cyngor barhau â’n gwaith i wneud gwelliannau ar draws y Sir.”

Gweler wybodaeth bellach am y grantiau yma: https://www.llyw.cymru/grantiau-trafnidiaeth-awdurdodau-lleol-ddyfarnwyd-2024-i-2025

Tags: , ,