Skip to Main Content

Bu artistiaid o Sir Fynwy a’r cyffiniau yn cymryd rhan yn y Dathliad o’r Celfyddydau cyntaf erioed yn y Sir yr wythnos diwethaf (dydd Gwener, 19eg Ebrill) o dan arweiniad y Cyngor.

Wedi’i ysbrydoli gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, bydd y digwyddiad yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, gan arddangos sut mae artistiaid, perfformwyr, cerddorion ac eraill yn cyfrannu at ddiwylliant ac economi bywiog Sir Fynwy.

Arweinydd y Cyngor, Cyng Mary Ann Brocklesby yn croeso gwesteion

Yn ei sylwadau agoriadol, dywedodd y Cynghorydd Brocklesby: “Mae hwn yn garreg gamu yn ein hymrwymiad i greu strategaeth ddiwylliannol newydd a fydd yn eiddo i bawb ac yn darparu canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, cefnogaeth a chynhwysiant ar draws ein holl gymunedau.”

Roedd y diwrnod yn fan cychwyn i’r prosiect a gydlynwyd gan y Cyngor, sy’n tanlinellu bod yr ardal yn lle ysbrydoledig i artistiaid creadigol o bob math i fyw a gweithio ynddo. Mae tirweddau, golygfeydd, fflora a ffawna lleol yn ysbrydoli artistiaid o bob math, sydd yn ei dro yn atgyfnerthu diwylliant y sir.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gydag artistiaid o bob rhan o’r Sir, gan ddarparu mynediad at gyllid a lleoliadau i arddangos eu gwaith. Dros y misoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag artistiaid lleol fel rhan o raglen ‘Clwstwr Creadigol’.

Mae’n cydnabod bod yr ardal eisoes yn gyforiog o artistiaid creadigol a gweledol, gan gynnwys crefftau coed, gwneud gemwaith, ffotograffwyr, peintwyr, cerflunwyr, ceramegwyr, cerddorion, dawns a theatr, llenorion a beirdd, artistiaid tecstiliau ac mwy. Mae’r rhestr bron yn ddiddiwedd.

P’un a yw pobl wedi byw mewn ardal ers oes neu’n ymwelwyr, mae ymwneud â’r celfyddydau ac artistiaid yn rhoi persbectif newydd ar gymunedau, lle a’u hanes.

Mae’r diwydiant creadigol yn cyfrannu £84.1 biliwn i economi’r DU ac mae artistiaid creadigol Sir Fynwy yn chwarae rhan hanfodol yn lleol ac yn genedlaethol.

Yn y digwyddiad, pwysleisiodd Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol yr Athro Sara Pepper fod bron i ddeg y cant o swyddi’r genedl yn yr economi greadigol.

Roedd gwaith gan yr artistiaid lleol Patricia Statham Maginness, Gemma Williams, Mike Erskine a Tiffany Murray yn cael ei arddangos am y tro cyntaf, a gosododd eraill stondinau i arddangos eu gwaith.

Mae’r Cyngor yn gwella ei strategaeth ddiwylliannol ymhellach fel rhan o ymrwymiadau’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.

Er mwyn dysgu mwy am waith y Cyngor, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/

Tags: , , ,