Skip to Main Content

Gwnaeth cwningen y Pasg ymddangosiad cynnar yng Ngwasanaethau Plant y Cyngor yr wythnos hon, wrth i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ddosbarthu 200 o wyau Pasg.

Mae caredigrwydd staff, cleientiaid a chwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn galluogi tîm Gwasanaethau Plant y Cyngor i ddosbarthu’r wyau i blant a phobl ifanc mwyaf bregus y sir.

Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn cefnogi Gwasanaethau Plant Sir Fynwy am y seithfed flwyddyn yn olynol. Dywedodd Stuart Clarke, Trysorydd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy: “Unwaith eto, mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi Cyngor Sir Fynwy a’r plant y mae’n gofalu amdanynt. Ar draws ein rhwydwaith o ganghennau yn Ne Cymru, mae Aelodau a Chydweithwyr wedi bod yn cyfrannu Wyau Pasg, gyda mwy na 200 o wyau siocled wedi’u casglu.

Mae’n wych gallu helpu fel hyn a gwneud gwahaniaeth mor fawr.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler, “Mae’n codi calon gwybod bod pobl yn pryderi flwyddyn ar ôl blwyddyn ac eisiau dod â gwên i rai o blant mwyaf bregus ein Sir. Diolch i chi i pawb sydd wedi cyfrannu drwy Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy.”

Cllr Ian Chandler
Cynghorydd Ian Chandler
Aelodau o dîm Gwasanaethau Plant y Cyngor ac aelodau o Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy
Tags: ,