Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwario tua £120k y flwyddyn ar gynnyrch llaeth. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni gaffael ein cyflenwad drwy broses gystadleuol. Mae’r newid yn y cyflenwr o ganlyniad i’r newidiadau diweddar yn y broses gaffael.

Mae’r Fframwaith Bwyd yn ddull cydweithredol gydag 20 o gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, a gafodd ei ail-dendro’n ddiweddar, a gwerthuswyd y ceisiadau gan roi 30% o’r ystyriaeth i’r pris a 70% i’r ansawdd. Mae Sir Fynwy wedi mwynhau perthynas waith ardderchog gyda Rhaglan Dairy, a benodwyd drwy Fframwaith Bwyd Cydweithredol Sector Cyhoeddus Cymru, a diolchwn iddynt am lefel y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Cyflwynodd Rhaglan Dairy gais a dyfarnwyd statws cyflenwr eilaidd iddo. Y cyflenwr a ddaeth yn gyntaf, ac a gafodd statws cyflenwr cynradd, oedd Totally Welsh, sef  llaethdy wedi’i leoli yng Ngorllewin Cymru. Ceisiodd Total Welsh gytuno ar ddull gweithredu gyda Rhaglan Dairy, ond ni ddaethpwyd i gytundeb.

Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chyflenwyr lleol ac ar hyn o bryd mae’n ystyried ei opsiynau, a allai gynnwys caffaeliad annibynnol o gynhyrchion llaeth. Fodd bynnag, mae angen i’r Cyngor sicrhau bod y dull a fabwysiadwn yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac y bydd digon o ddiddordeb gan gyflenwyr i gyfiawnhau gwyro oddi wrth ddull cydweithredol Cymru gyfan. Os dilynir yr opsiwn hwn, bydd amser paratoi, ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cyflenwr lleol yn llwyddiannus.

Tags: