Skip to Main Content

Wrth i Gyngor Sir Fynwy ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae’n bleser gennym rannu cipolwg ar gynlluniau’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd a fydd yn agor ei drysau yn Nhrefynwy cyn hir.

Bydd Ysgol Gymraeg Trefynwy yn agor ei drysau i’r disgyblion cyntaf ym mis Medi 2024, a’r bwriad yw cwblhau adeilad yr ysgol newydd ar ei newydd wedd yn 2025. Bydd y myfyrwyr cyntaf yn defnyddio’r llety sydd ar gael yn Ysgol Gynradd Overmonnow wrth i adeilad newydd yr ysgol gael ei ddatblygu.

Bydd yr ysgol newydd yn croesawu disgyblion o Drefynwy a’r ardaloedd cyfagos. Er mwyn cadarnhau a ydych yn nalgylch yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd neu i ddod o hyd i’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg agosaf atoch chi, ewch i https://mapiau.monmouthshire.gov.uk/. Bydd cludiant ysgol ar gael i ddisgyblion oed ysgol sy’n byw mwy na 1.5 milltir o’r ysgol ac yn byw o fewn y dalgylch.

O fis Medi 2024, am flwyddyn yn unig, bydd Ysgol Gymraeg Trefynwy yn cynnig diwrnodau llawn i blant tair a phedair oed yn unol ag oriau agor yr ysgol. O fis Medi 2025, bydd Cylch Meithrin cyfrwng Cymraeg ar safle’r ysgol a all ddarparu gofal cofleidiol i blant 3 a 4 oed, yn ogystal â gofal plant Dechrau’n Deg i blant dwy oed, felly bydd meithrinfa’r ysgol wedyn yn dychwelyd i fod yn sesiynau rhan amser o 2 ½ awr y dydd.

Ysgol Gymraeg Trefynwy (Artist impressions)

Heddiw, wrth i ni ddathlu diwylliant Cymru, rydym yn hapus i rannu cipolwg ar y cynlluniau ar gyfer yr ysgol gynradd Gymraeg newydd, a fydd yn cael ei hadeiladu ar Heol Rockfield.

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor neithiwr (29ain Chwefror), cyrhaeddwyd carreg filltir arall yn agoriad yr ysgol newydd, gan y cadarnhawyd mai Ysgol Gymraeg Trefynwy fydd enw’r ysgol yn swyddogol.

Mae creu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhrefynwy yn rhan hollbwysig o gyfraniad Cyngor Sir Fynwy i strategaeth Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hefyd yn cyflawni’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol Addysg Gymraeg y Cyngor 22-32, sy’n cefnogi ein strategaeth ehangach i gynyddu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir.

Mae’n hysbys bod plant yn dysgu ieithoedd newydd yn gyflymach, a bydd tyfu i fyny’n ddwyieithog yn rhoi mantais dda i’ch plentyn pan fydd yn dod i mewn i’r gweithle proffesiynol maes o law. Bydd cefnogaeth lawn ar gael i rieni’r plant hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg, gan ganiatáu iddynt gefnogi eu plant ar hyd eu taith ysgol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Wrth i Gymru ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae’n wych gallu rhannu cynlluniau cyntaf yr adeilad ysgol newydd gyda chi. Bydd Ysgol Gymraeg Trefynwy yn rhoi cyfle gwych i’n plant iau i ddilyn addysg cyfrwng Cymraeg. Rydw i mor falch o weld niferoedd y Gymraeg yn tyfu yn Sir Fynwy. Bydd yr ysgol newydd yn caniatáu i ni ddarparu lle i barhau â’r twf hwn am genedlaethau i ddod.”

Dywedodd Robert Williams, Cyfarwyddwr Ardal ar gyfer Morgan Sindall Construction: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r tîm sy’n cyflwyno prosiect newydd pwysig i Sir Fynwy, gan fynd i’r afael â’r angen hanfodol am ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y sir.

“Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datblygu gweledigaeth ysbrydoledig o’r hyn y bydd yr ysgol yn ei gynnig a sut y bydd yn gwasanaethu’r gymuned leol. Bydd y contract gwasanaethau cyn-adeiladu yn golygu y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Penseiri EPT, Partneriaeth Austin, SDS ac ysgolion lleol eraill, i sefydlu sut y gallwn wireddu’r weledigaeth honno cyn blwyddyn ysgol 2025/26. Mae’n fraint bod yn rhan o brosiect mor bwysig i Sir Fynwy.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru eich plentyn yn Ysgol Gymraeg Trefynwy, gallwch wneud cais am le heddiw yn y Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1; ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/applying-for-a-school-place/ neu e-bostiwch accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

Mae Corff Llywodraethu dros dro yr ysgol wedi ei sefydlu ac yn gobeithio penodi Pennaeth yn yr wythnosau nesaf. Wrth ddatblygu polisïau ar gyfer yr ysgol newydd, byddant yn gweithio ar frandio’r ysgol, gan gynnwys arwyddion ysgol, logos a’r wisg ysgol! I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch  Debbie Gravesdebbiegraves@monmouthshire.gov.uk neu Cath Saunderscathsaunders@monmouthshire.gov.uk

Bydd diweddariadau pellach hefyd ar gael yma – https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ysgol-gynradd-gymraeg-newydd-yn-nhrefynwy-ysgol-gymraeg-trefynwy/

Tags: , , , , ,