Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ymgynghoriad ar ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-28.

Gofynnir nawr i gymunedau ein helpu i lunio ein gwaith dros y pedair blynedd nesaf.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Fynwy yn amlinellu’r amcanion a’r camau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cyflawni dros y pedair blynedd nesaf, i sicrhau y gall pawb yn Sir Fynwy gyflawni eu potensial llawn.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig saith amcan cydraddoldeb:

  • Rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.
  • Cefnogi creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.
  • Gweithio gyda phartneriaid a thrigolion i adeiladu cymunedau cynhwysol a chydlynol.
  • Ehangu ein darpariaeth o wasanaethau yn y gymuned sy’n ymestyn disgwyliad oes iach pobl.
  • Sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch i’r cyhoedd.
  • Sicrhau bod gennym weithlu amrywiol a gweithle cwbl gynhwysol.
  • Lleihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Felly, hoffai Cyngor Sir Fynwy i bobl ddweud wrthym beth yw eu barn am yr amcanion hyn a rhoi adborth i ni drwy ein harolwg. Yn ogystal, rydym yn annog pobl i adolygu’r ddogfen ymgynghori a rhoi gwybod i ni am unrhyw bwyntiau pwysig y gallem fod wedi’u hanwybyddu. Mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Angela Sandles, yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw un o’n blaenoriaethau mwyaf. Mae’n hanfodol cydnabod a gwerthfawrogi galluoedd a chyfraniadau pawb yn ein cymunedau, waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw un o’r nodweddion eraill sy’n ein gwneud pwy ydym. Rydym am i Sir Fynwy fod yn lle teg, lle mae effeithiau anghydraddoldeb a’r anfanteision economaidd-gymdeithasol y mae llawer o bobl yn eu hwynebu’n cael eu lleihau. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau, ac ochr yn ochr â nhw, i gyflawni hyn.”

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan hanner dydd, ddydd Gwener 9fed Chwefror a gellir ei gyrchu o https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ymgynghoriadau/. Gall pobl ofyn am fersiwn bapur o’r arolwg drwy e-bostio equality@monmouthshire.gov.uk, drwy ffonio 01633 644644, neu drwy ofyn amdano yn eich Canolfan Gymunedol agosaf.

Tags: ,