Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i sicrhau bod canol trefi yn y Sir yn parhau i fod yn lleoedd bywiog a chroesawgar sy’n bodloni anghenion y cymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr. 

Mae Grantiau Gwella Eiddo Canol Tref Sir Fynwy yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau i eiddo yng nghanol trefi dynodedig y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy.

Mae’r Cyngor nawr yn gwahodd partïon â chanddynt ddiddordeb i lenwi ffurflen mynegi diddordeb, sydd ar gael tan 9fed Chwefror 2024. Gellir dod o hyd i’r Ffurflen yma: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/creu-lleoedd-ac-adfywio/

Nod y cynllun yw sicrhau agwedd well ac integredig at adfywio canol trefi Sir Fynwy. Mae’n cael ei ariannu drwy Grantiau Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy.

Y cynlluniau a dderbynnir yw:

  • Gwelliannau allanol a mewnol i ddod â gofod llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd cadarnhaol.
  • Gwelliannau allanol i flaen y siop heb unrhyw waith mewnol.
  • Trosi lloriau uwch sy’n wag neu na sy’n cael eu defnyddio yn llety preswyl newydd.
  • Gwaith i alluogi defnydd dros dro /galw heibio o eiddo yng nghanol trefi sy’n wag ar hyn o bryd.

Mae’r cynllun yn agored i berchnogion eiddo o fewn y ffin gymwys neu lesddeiliaid sydd ag isafswm prydles o saith mlynedd yn weddill (neu bum mlynedd ar gyfer gwaith allanol, dim ond pan fo grant yn llai na £50,000).

Mae cyllid cyfyngedig ar gael a bydd prosiectau sy’n sicrhau manteision adfywio sylweddol i ganol y dref yn cael eu blaenoriaethu. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried wrth iddynt ddod i law. Felly, rydym yn argymell bod ymgeiswyr yn anfon eu datganiad o ddiddordeb cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae hwn yn gyfle gwych nid yn unig i fusnesau yng nghanol trefi Sir Fynwy i wella eu heiddo, ond hefyd i wella golwg a naws y dref. Mae denu trigolion ac ymwelwyr i ganol ein trefi yn hanfodol i’r economi leol.”

Ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/creu-lleoedd-ac-adfywio/ i ddysgu mwy am Grantiau Gwella Eiddo Canol Tref Sir Fynwy. Mae modd i chi e-bostio mccregeneration@monmouthshire.gov.uk  os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Tags: ,