Skip to Main Content

Mae’r Cyng. Rachel Garrick, Aelod Cabinet dros Adnoddau (sy’n rhannu’r swydd gyda’r Cynghorydd Ben Callard) a chynrychiolydd Ward y Castell, Cil-y-coed, wedi ymddiswyddo o’r Cabinet gan fod ei hymrwymiadau proffesiynol wedi ehangu’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd y Cynghorydd Callard nawr yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y portffolio adnoddau.

Bydd y Cyng. Garrick yn parhau i gynrychioli ei thrigolion yn Ward Castell, Cil-y-coed, tra’n parhau i weithio fel Uwch Reolwr yn y Diwydiant Niwclear, gan ddarparu ynni di-garbon. Mae gan Rachel raddau mewn Geneteg a Ffiseg ac mae wedi gweithio ym maes STEM ers 25 mlynedd.

Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor: “Yn anffodus, derbyniais ymddiswyddiad Rachel o’r Cabinet. Er ein bod ni ar ein colled, mae’r diwydiant ynni ar ei ennill.  Mae Rachel wedi bod yn aelod hynod effeithiol ac aruthrol o’r Cabinet ers dechrau’r weinyddiaeth. Mae hi wedi dod â’i sgiliau dadansoddi a’i phrofiad helaeth i’r Cabinet. Tra ein bod yn colli Rachel fel Aelod Cabinet, rydym wrth ein bodd y bydd yn esiampl i fenywod eraill sydd am weithio ym maes gwyddoniaeth a diwydiant. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli merched yn y cenedlaethau iau i ddilyn llwybr i mewn i wyddoniaeth a gwleidyddiaeth”.

Cllr Rachel Garrick
Tags: ,