Skip to Main Content

Derbyniodd Cyngor Sir Fynwy gadarnhad heddiw  gan Lywodraeth Cymru o’r cynnydd dros dro o 2.3% yn y cyllid craidd y bydd yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan yw 3.1%.

Mae’r cynnydd arfaethedig yn heriol i’r Cyngor a’i drigolion, yn dilyn amcangyfrifon sy’n dangos y bydd chwyddiant a thwf mewn galw yn sylweddol uwch na’r cynnydd a ddarparwyd.

Mae amcangyfrifon y Cyngor yn awgrymu y byddai chwyddiant a’r twf yn y galw am wasanaethau, megis gofal cymdeithasol, yn gofyn am gynnydd mewn gwariant o dros 10% i gynnal y lefelau presennol o wasanaethau.

Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rhaid i ni barhau’n bragmatig wrth i ni barhau i weithio drwy gyfnod heriol, nid yn unig i Sir Fynwy, ond i’r wlad. Fel bob amser, byddwn yn rhoi ein preswylwyr yn gyntaf wrth i ni ymdrechu i osod cyllideb gadarn a theg.”

Dywedodd y Cyng. Ben Callard, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Mae maint yr her sy’n ein hwynebu yn fwy nag yr ydym erioed wedi’i hwynebu o’r blaen. Byddwn yn mynd i’r afael â’r her hon a byddwn yn deg ac yn agored yn y modd yr ydym yn gosod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau fel y nodir yn ein cynllun cymunedol a chorfforaethol.”

Bydd cynigion cyllideb ddrafft y Cyngor yn cael eu hystyried gan y Cabinet mewn cyfarfod ar 17eg Ionawr, 2024 ac yna’n cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd y gymuned leol a sefydliadau partner yn cael cyfle i rannu eu barn ar y cynigion a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law ar wefan y Cyngor – https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/

Tags: , ,