Skip to Main Content
Members of Abergavenny Town of Sanctuary Group with Cabinet Member for Equalities and Engagement, Cllr Angela Sandles
Aelodau o Grŵp Tref Noddfa’r Fenni gyda’r Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Clyng. Angela Sandles

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i gael ei gydnabod fel Sir Noddfa.

Ar 29ain Tachwedd, yn ystod sesiwn hyfforddi Lloches a Ffoaduriaid, roedd y Cyngor wedi cydnabod  Grŵp Tref Noddfa’r Fenni am eu gwaith ymroddedig yn croesawu ac ymgysylltu â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Sir Fynwy ers 2016. Nod y Grŵp yw helpu ceiswyr lloches i ymgartrefu ac ailadeiladu eu bywydau drwy ddarparu cymorth a chroeso yn y Fenni a’r ardaloedd cyfagos.

Mae Cyngor Sir Fynwy newydd ddechrau ei daith tuag at ddod yn Sir Noddfa, ac mae wedi gosod sawl nod i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Mae’r amcanion hyn yn cynnwys:
• Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a sefydliadau perthnasol eraill i ddarparu gwybodaeth i geiswyr lloches newydd sy’n cyrraedd.
• Gwella mynediad ac ymwybyddiaeth o holl gynigion y Cyngor a phartneriaid.
• Gwella hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiwylliant drwy rwydwaith Diogelu Lleol Sir Fynwy.
• Codi ymwybyddiaeth o rwystrau ychwanegol.
• Gwella ymwybyddiaeth o faterion ceiswyr lloches a ffoaduriaid o fewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ac Ieuenctid.
• Sicrhau bod modd cyfathrebu gyda phobl mewn ieithoedd gwahanol.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gefnogi pobl sy’n ceisio noddfa yn ein Sir trwy gynlluniau amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynllun Adsefydlu Ffoaduriaid (ers 2016), Gwasgaru Lloches, Polisi Adleoli a Chymorth Afghanistan, a Dinas Noddfa. Ers 2016, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynnig cymorth adsefydlu i bobl leol Affganistan a gynorthwyodd y Fyddin Brydeinig.

Yn sgil y Cynllun Adsefydlu Ffoaduriaid, mae 51 o unigolion wedi ymgartrefu yn Sir Fynwy ers 2016. Mae’r Cyngor yn cydnabod na fyddai’r gwaith hwn yn bosibl heb gymorth cymunedau lleol sy’n darparu lleoliad i bobl pan fyddant ei angen fwyaf.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Hoffwn ddiolch i holl drigolion Sir Fynwy am eu cymorth di-ben-draw pan fo angen help ar bobl. Ar draws y Sir, rydych chi wedi dangos parodrwydd i helpu pobl pan maent ei angen fwyaf. Roedd yn wych cydnabod y gwaith diflino mae Grŵp Tref Noddfa’r Fenni yn ei wneud yn y Fenni ac ar draws y Sir. Diolch i holl aelodau’r grŵp.”

Tags: , ,