Mae Cyngor Sir Fynwy yn recriwtio aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy.
Mae’r Fforwm Mynediad Lleol yn cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill ar wella hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd yn Sir Fynwy.
Swyddi gwirfoddol yw’r rhain i roi cyngor ar faterion mynediad i gefn gwlad a helpu i gefnogi gwelliannau i fynediad lleol.
Er bod aelodau’n cael eu penodi’n bersonol, yn unol â’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad o gael mynediad i gefn gwlad, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarpar aelodau sydd â chysylltiadau rhagorol a gweithredol â sefydliadau, partneriaethau a grwpiau diddordeb lleol perthnasol.
Mae’r Fforwm yn ceisio cydbwyso buddiannau tirfeddianwyr a rheolwyr tir, pob math o ddefnyddwyr mynediad a’r rhai sy’n cynrychioli buddiannau eraill, megis iechyd, mynediad i bawb a chadwraeth. Rydyn ni’n edrych am aelodau gydag arbenigedd a diddordebau eang, gall cefnogi ymrwymiad Cyngor Sir Fynwy i wella mynediad i gefn gwlad.
Mae’r Fforwm yn rhan o ofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i gynghori ar wella mynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhad o’r ardal ac i gynghori a chynorthwyo gyda gweithredu’r Cynllun Gwella Mynediad i Gefn Gwlad. Mae’n cynnwys rhwng 12 a 22 o aelodau. Penodir aelodau am dair blynedd. Fel arfer cynhelir cyfarfodydd bob chwarter.
Mae gwybodaeth bellach a ffurflen gais ar gael ar y wefan https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/countryside-access/ neu cysylltwch gyda countryside@monmouthshire.gov.uk
Mae angen ffurflenni wedi’u llenwi erbyn 12fed Ionawr 2024.
Tags: Local Access Forum, MonLife, Monmouthshire, news