Skip to Main Content

Yn dilyn cyfarfod llawn o’r Cyngor ar 26ain Hydref, bydd Cyngor Sir Fynwy yn bwrw ymlaen â phenderfyniad y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y safleoedd arfaethedig sy’n eiddo i’r Cyngor ar gyfer eu defnyddio o bosib fel safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer teuluoedd lleol sydd angen lle parhaol i byw.

Disgwylir i ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ddechrau ar 9fed Tachwedd, lle gall trigolion, busnesau, rhanddeiliaid lleol ac aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr roi adborth ar y safleoedd arfaethedig.

Yn ogystal â gwybodaeth gynhwysfawr ar ein gwefan (i’w chyhoeddi’n fuan: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/sipsiwn-a-theithwyr/), gall trigolion fynychu sesiynau galw heibio cyhoeddus yn Neuadd yr Eglwys, Porthsgiwed, ar 22ain o Dachwedd rhwng 4.00pma 7.00pm ac yn Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy ar 23ain o Dachwedd rhwng 4.00pm a 7.00pm i ddarganfod mwy am rwymedigaethau ac ystyriaethau’r Cyngor. Mae sesiynau galw heibio pellach hefyd wedi’u cynllunio ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Bydd gwybodaeth ychwanegol am y sesiynau galw heibio cyhoeddus ar gael ar ein gwefan.

Mae gan Gyngor Sir Fynwy ddyletswydd gyfreithiol a moesol i ddarparu safleoedd yn ei Gynllun Datblygu Lleol Amnewid i ddiwallu’r anghenion a nodwyd. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud ar ba safle(oedd) fydd yn cael eu cynnig. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhoi cyfle llawn i gyfranogwyr gael gwybodaeth a rhoi adborth.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Fynwy: “Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhoi cyfle i drigolion, busnesau, rhanddeiliaid lleol a’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr i leisio’u barn ar y safleoedd arfaethedig. Manteisiwch ar y cyfle hwn i ymgysylltu â swyddogion a Chynghorwyr ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Rwy’n annog pawb i ddarllen y wybodaeth a fydd ar gael yn fuan er mwyn dod i ddeall y cynigion.”

Tags: ,