Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy ar hyn o bryd yn chwilio am ymgeiswyr i wirfoddoli i fod yn aelodau o’r corff llywodraethu dros dro ar gyfer yr egin ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sy’n agor ym mis Medi 2024.

Mae creu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mynwy yn ganolog i’n cyfraniad at strategaeth Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd hefyd yn cyflawni’r targedau a nodir yn ein Cynllun Strategol Addysg Gymraeg cyfredol 22-32 ac yn cefnogi ein strategaeth ehangach i dyfu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg: “Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn Sir Fynwy. Fel llywodraethwr ysgol byddwch yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r ysgol newydd gyffrous hon yn Nhrefynwy. Nid oes angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg ond mae angen i chi fod yn ymroddedig i addysg cyfrwng Cymraeg ac yn angerddol am yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Gallai fod yn un o’r pethau mwyaf gwerth chweil i chi ei wneud erioed, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd yma yn Sir Fynwy.”

Mae ysgolion yn elwa’n aruthrol o fewnbwn strategol eu llywodraethwyr, sy’n helpu i oruchwylio llawer o agweddau o’r ysgol ac yn cyfrannu at gorff llywodraethu’r ysgol wrth godi safonau cyflawniad pob disgybl.

Mae dod yn llywodraethwr yn gofyn am egni ac ymrwymiad ond mae hefyd yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc wrth iddynt ddatblygu a rhagori. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddefnyddio sgiliau sydd gennych eisoes ac i ddysgu sgiliau newydd ar yr un pryd.

Nid oes rhaid i chi gael plentyn yn yr ysgol i wneud cais, ond dylai fod gennych ddiddordeb mewn addysg ac wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Dylai llywodraethwyr hefyd allu dod â sgiliau sydd o fudd i’r ysgol, megis profiad busnes, gwybodaeth TG, adnoddau dynol neu sgiliau creadigol.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am ddod yn llywodraethwr Awdurdod Lleol ar y corff llywodraethu dros dro ar gyfer yr egin ysgol gynradd newydd hon yn Nhrefynwy, e-bostiwch wendybarnard3@monmouthshire.gov.uk neu SharonRandall-Smith@monmouthshire.gov.uk  neu ffoniwch 07973 884461. Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ewch i  www.monmouthshire.gov.uk/becoming-a-school-governor/ 

Rydym hefyd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan rieni lleol ac aelodau o’r gymuned i ymuno â’r corff llywodraethu dros dro. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwchwendybarnard3@monmouthshire.gov.uk neu SharonRandall-Smith@monmouthshire.gov.uk gan amlinellu eich sgiliau a’ch profiad.  

Bydd ceisiadau ar gyfer llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyfer y corff llywodraethu dros dro yn yr egin ysgol gynradd newydd hon yn cau ar 6ed Tachwedd a bydd datganiadau o ddiddordeb gan rieni ac aelodau’r gymuned yn cau ar 10fed Tachwedd. 

Tags: , ,