Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi diweddariad ar y gwaith ailwynebu arfaethedig ar Bont Gwy yn Nhrefynwy. Mae’r dyddiad  arfaethedig ar gyfer cau’r bont er mwyn dechrau’r gwaith, sef  16eg Hydref, bellach wedi’i ohirio tan tymor Gwanwyn 2024 ar y cynharaf. Mae’r penderfyniad wedi’i wneud ar ôl i’r Cyngor fethu â bwrw ymlaen gyda’r gwaith yn sgil tendr nad oedd yn cydymffurfio.

Mae’r angen am fuddsoddiad mawr i wella cyflwr Pont Gwy yn cael ei gydnabod gan drigolion a busnesau yn Nhrefynwy a’r cyffiniau. Mae pwysigrwydd Pont Gwy fel rhan allweddol o’r rhwydwaith teithio yn golygu y bydd dod o hyd i ffordd i roi wyneb newydd ar Bont Gwy gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn her bob amser. Mae hyn yn cael ei wneud yn anoddach o ystyried oedran a strwythur unigryw’r bont.

Hoffai Cyngor Sir Fynwy roi sicrwydd i drigolion a busnesau y bydd eu pryderon a’u hanghenion yn cael eu parchu a’u hystyried, a bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar fywydau pobl pan fydd y gwaith yn digwydd.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Fynwy hefyd ei fod yn ymwybodol o brosiectau gwella seilwaith mawr eraill yn Nhrefynwy, yn enwedig gwaith helaeth gan Dŵr Cymru ar eu seilwaith. Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau ym mis Medi. Ceir manylion yn www.dwrcymru.com/cy/help-advice/in-your-area.

Bydd y Cyngor yn ystyried yr amserlen newydd er mwyn lliniaru effaith unrhyw darfu ar drigolion a busnesau lle bo modd. Yn seiliedig ar yr angen i fynd allan i dendr eto, rydym yn disgwyl na fydd modd bwrw ymlaen â’r gwaith tan tymor Gwanwyn 2024 o leiaf.

Mae’r Cyngor yn dal i dderbyn cyngor gan ein peirianwyr bod angen cau’r bont i bob math o draffig ac eithrio’r gwasanaethau brys a cherddwyr tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Bydd y Cyngor yn parhau i archwilio opsiynau i liniaru’r effaith  o gau’r bont, a hynny fel rhan o’n proses dendro newydd a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pan fydd modd cadarnhau’r wybodaeth.

Tags: ,