Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy ar fin cadarnhau cytundeb arloesol gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr yn y cyfarfod Cabinet ar ddydd Mercher 6ed Medi.

Byddai Partneriaeth arfaethedig y Gororau Ymlaen yn gweld Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda Chyngor Swydd Henffordd, cynghorau Powys a Swydd Amwythig. Byddent yn dod at ei gilydd i wneud cais am arian gan y Llywodraeth ar brosiectau mawr a fydd o fudd i ranbarth y Gororau, sy’n cwmpasu 80% o’r gororau rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd pob Cyngor yn cadw ei hunaniaeth a’i annibyniaeth ei hun ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau i drigolion a busnesau fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd ond byddant yn gweithio gyda’i gilydd, fel partneriaid, lle mae budd i bawb a gwerth ychwanegol.

Mae meysydd o ddiddordeb trawsffiniol a rennir yn debygol o gynnwys trafnidiaeth, sgiliau a thai ochr yn ochr ag ynni, newid hinsawdd a chysylltedd digidol – materion cyffredin i boblogaeth yr ardal o bron i 750,000.

Rhagwelir y bydd cydweithio arfaethedig y Cynghorau a’r awydd i gydweithio yn cynyddu buddsoddiad cyffredinol y llywodraeth, gan ddatgloi miliynau o bunnoedd ar gyfer mentrau a nodwyd sy’n cefnogi economi wledig a thwf gwyrdd y Gororau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby: “Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o fod yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol yn Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Phowys ym Mhartneriaeth y Gororau Ymlaen. Ei nod yw darparu fforwm i sefydlu fframwaith cydweithio rhwng yr ardaloedd cysylltiedig hyn o Gymru a Lloegr, gan gydweithio i fynd i’r afael â buddiannau a rennir trawsffiniol a hybu buddsoddiad yn y rhanbarth.”

“Fel Awdurdodau Lleol cyfagos, rydym wedi ein rhwymo gan ddiben cyffredin sy’n seiliedig ar ein natur wledig. Gwyddom fod llifoedd sylweddol o bobl rhwng y ffin rhwng Canolbarth Cymru a Lloegr ym mhob maes, gan gynnwys gofal iechyd, addysg, datblygu sgiliau, swyddi a darparu gwasanaethau. Mae llawer o ffactorau, gan gynnwys cyfleustra daearyddol, yn gyrru’r symudiad trawsffiniol. Edrychwn ymlaen at fod yn rhan o Bartneriaeth Gororau Ymlaen, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol o ddiddordeb a rennir a budd cilyddol sy’n debygol o gynnwys addasu natur ac hinsawdd, ynni, trafnidiaeth a chysylltedd, tai, digidol, adfywio economaidd, sgiliau ac arloesi.”

Tags: ,