Skip to Main Content
members of the council and members of the public, next to dog litter bins

Cynhaliwyd digwyddiadau yng Nghas-gwent a Brynbuga ar Ddiwrnod Gweithredu o ran Baw Cŵn i annog pawb i ‘wneud y peth iawn’ o ran baeddu cŵn.  

Yng Nghas-gwent, ymwelodd cynghorwyr tref gyda swyddogion Cyngor Sir Fynwy ag ardaloedd lle derbynnir cwynion rheolaidd am faw cŵn, i siarad â pherchnogion cŵn am eu cyfrifoldebau. Mae’r cyngor tref yn berchen ar 36 o finiau gwastraff cŵn, ac maent wrthi’n ychwanegu’r holl leoliadau biniau cŵn ar yr app Pooper Snooper. Mae’r app ar gael i’r cyhoedd ac mae’n dangos lleoliad y bin cŵn agosaf. Gellir ei ddefnyddio hefyd i blotio achosion o faw cŵn fel y gellir nodi mannau problemus. Cyn bo hir, bydd bin cŵn newydd yn cael ei osod yn Restway Wall, Cas-gwent. 

Ym Mrynbuga, mae arwyddion newydd wedi’u gosod gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Meirion Howells a chynghorwyr tref Brynbuga i atgoffa pobl i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Mae ardaloedd allweddol fel y llwybr glan yr afon ar hyd yr afon Wysg a’r maes chwaraeon yn dueddol o ddioddef o faw cŵn, a bydd y llwybrau hyn yn cael eu harolygu a’u patrolio’n rheolaidd am sawl wythnos i weld a yw’r arwyddion hyn wedi helpu i godi ymwybyddiaeth. Mae Cyngor Tref Brynbuga wedi mapio pob un o’u 8 bin cŵn ar app Pooper Snooper, i helpu trigolion ac ymwelwyr i ddod o hyd iddynt yn haws.

Gall unrhyw un sy’n cael eu dal heb lanhau ar ôl eu hanifail anwes gael dirwy o hyd at £75. Anogir pobl leol i roi gwybod am unrhyw achosion o faw cŵn, yn enwedig lle gellir adnabod y cerddwr cŵn. Darganfyddwch fwy: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/sbwriel-a-baw-cyn/

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar draws y sir yn dechrau ymhen cwpl o wythnosau ynghylch gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus drafft, gyda’r nod o fynd i’r afael â phryderon drwy gyflwyno rheolaethau cŵn ychwanegol mewn mannau cyhoeddus.  Bydd hyn yn cynnwys cynigion posibl fel yr angen i berchnogion cŵn godi baw cŵn ar ôl eu ci mewn unrhyw fan cyhoeddus, cario bagiau baw cŵn, a bydd yn cynnig nifer o safleoedd lle na chaniateir cŵn e.e. mannau chwarae, caeau chwaraeon wedi’u marcio, ynghyd â nifer o ardaloedd lle bydd angen i gi fod ar dennyn.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, y Dirprwy Arweinydd:

“Hoffwn ddiolch i bob un o berchnogion cŵn cyfrifol Sir Fynwy sy’n ‘gwneud y peth iawn’.  Mae angen i bawb chwarae eu rhan i gadw awyr agored trawiadol Sir Fynwy yn ddiogel a hardd.  A chofiwch, mae’n gwbl dderbyniol gosod gwastraff cŵn mewn biniau sbwriel os nad ydych yn agos at fin gwastraff cŵn pan fyddwch allan.”  

Ychwanegodd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Meirion Howells: 

“Fel perchennog ci fy hun, rwy’n gwybod eu bod yn dod â manteision enfawr i’n bywydau o ran ymarfer corff, cwmnïaeth a chariad diamod, ond yn anffodus mae cyfran o berchnogion cŵn nad ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldeb i lanhau ar ôl eu cŵn. Mae mor bwysig cadw ein mannau cyhoeddus yn lân er mwyn i bawb eu defnyddio.”