Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Mae eich cyngor sir a chynghorau cymuned yn gwario llawer o arian, amser ac ymdrech yn glanhau ardaloedd cyhoeddus lle mae sbwriel a baw cŵn. Gellid arbed ar y cyfan yma pe byddai pawb sy’n byw yn ein cymunedau mor gyfrifol â’r mwyafrif helaeth.

Mae sbwriel yn cynnwys deunydd pacio, bwyd a stympiau sigaréts. Mae’n drosedd taflu neu ollwng sbwriel mewn unrhyw fan y mae gan y cyhoedd fynediad ynddo; mae hyn yn cynnwys taflu sbwriel o gerbydau (adran 87 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990).

Mae baw cŵn yn broblem i’r rhan fwyaf o’n trefi a phentrefi. Dyma’r math gwaethaf o sbwriel a chaiff y mater ei godi’n gyson fel pryder gan y cyhoedd. Gall fod â risgiau iechyd fel Toxicariasis, haint a achosir gan barasitiaid llyngyr sydd mewn baw cŵn, Os ydych angen mwy o wybodaeth cysylltwch â Environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk.

Y gosb

Lle mae tystiolaeth fod person wedi taflu sbwriel neu wedi methu glanhau ar ôl eu cŵn, rhoddir hysbysiad cosb benodedig iddynt sy’n ddirwy o £75 i’w thalu o fewn 14 diwrnod (yn gostwng i £50 os caiff y ddirwy ei thalu o fewn 10 diwrnod). Bydd methiant i dalu yn golygu y bydd Cyngor Sir Fynwy yn erlyn y troseddwr mewn llys ynadon.

Mae angen eich help arnom

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwaredu’ch sbwriel yn iawn neu’n cario bag baw ci pan fyddwch yn cerdded eich ci. Wedyn gallwch chi ei roi mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus, neu fynd ag ef adref a’i roi yn eich bag du ar gyfer y casgliad sbwriel cartref.  

Gallwch ddefnyddio bin sbwriel neu fin baw cŵn i waredu baw cŵn rydych yn ei godi wrth gerdded eich ci oddi cartref, ond peidiwch â’u defnyddio i gael gwared â baw ci o’ch cartref neu ardd.

Os ydych yn agos at eich cartref neu os oes angen cael gwared â baw cŵn o’ch cartref neu ardd, rhowch hynny yn eich bagiau gwastraff cartref.

Nid yw biniau sbwriel a biniau baw cŵn wedi’u bwriadu ar gyfer cael gwared â llawer iawn o faw cŵn mewn bagiau. Mae gwagio biniau baw cŵn yn ddrud a dim ond bob pythefnos y caiff llawer eu gwagio a byddant yn llenwi’n gyflym os cânt eu defnyddio i waredu meintiau mawr o faw cŵn.  Defnyddiwch y biniau’n ystyriol ac yn gyfrifol neu efallai y cânt eu cymryd i ffwrdd.

Byddwn yn gweithredu os yw swyddogion cyngor, swyddogion yr heddlu neu breswylwyr yn ein hysbysu am ddigwyddiad. Os credwch eich bod wedi gweld trosedd o daflu sbwriel neu faw cŵn, llenwch ein e-ffurflen os gwelwch yn dda. Mae rhai o’n Cynghorau Tref a Chymuned yn ymuno â’r cynllun ‘Cerdyn Coch’, fel y manylir islaw. Os gwelsoch unrhyw achos o gŵyn yn baeddu yn unrhyw un o’r ardaloedd dilynol, hysbyswch ni amdano os gwelwch yn dda:

  • Caerwent
  • Matharn
  • Brynbuga
  • Cil-y-coed
  • Trefynwy
  • Goetre Fawr
  • Porthysgewin
  • Llanbadog
  • Rogiet
  • Llangybi Fawr
  • Drenewydd Gellifarch
  • Magwyr gyda Gwndy
  • Cyngor Tref Y Fenni
  • Cyngor Cymuned Trellech Unedig
  • Llanfoist Fawr
  • Llangatwg Vibon Ave
  • Mitchell Troy
  • Rhaglan
  • Cas-gwent
  • Y Dyfawden
  • Llanelli
  • Llanarfan