Skip to Main Content

Mae cynllun newydd ar gyfer Monnow Street yn Nhrefynwy wedi cael ei ddatgelu wrth i ymgynghoriad lansio er mwyn i drigolion rannu eu barn am y syniadau arfaethedig.

Mae prosiect Monnow Street yn adeiladu ar ddylunio ac ymgynghori cynharach a gynhaliwyd yn 2020 a 2022. 

Nod y cynllun yw creu amgylchedd dymunol a diogel i bobl ar droed neu sy’n beicio, gan annog pobl i ymweld a threulio mwy o amser yn Monnow Street, tra’n cynnal traffig cerbydau dwy ffordd a pharcio ar y stryd.

Mae’r mesurau allweddol sy’n cael eu cynnig yn y dyluniad yn cynnwys creu mwy o le i gerddwyr ac i fusnesau ymestyn allan i’r stryd, ei gwneud hi’n haws symud o gwmpas a chroesi’r ffordd, a darparu gwell cyfleusterau llwytho i fusnesau, yn ogystal â pharcio ar y stryd. Bydd y cynllun hefyd yn mynd i’r afael â’r problemau presennol o ran draenio a llwybrau troed anwastad.  Pan gaiff ei adeiladu, y bwriad yw y bydd y cynllun newydd yn disodli’r mesurau dros dro a oedd wedi’u cyflwyno oherwydd Covid.

Nododd ymgynghoriadau blaenorol ar ddiwedd 2020 a dechrau 2022 nifer o flaenoriaethau allweddol, ac mae pob un ohonynt wedi llywio’r cynigion presennol. Mae cwmni Roberts Limbrick Architects and Urban Designers yn cefnogi Cyngor Sir Fynwy gyda’r cam nesaf o ddatblygu’r dylunio.

Bydd modd i bobl weld a rhoi sylwadau ar y cynigion dylunio diweddaraf, naill ai wyneb yn wyneb neu drwy wefan Cyngor Sir Fynwy.  Mae’r dyluniadau wedi canolbwyntio ar bum egwyddor allweddol, sef; 

  • Lle i Bobl
  • Lle i Groesi
  • Lle i Lwytho
  • Lle i Blannu
  • Lle i Barcio

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Economi Gynaliadwy, y Cynghorydd Paul Griffiths:  “Rydym wedi gwrando ar bobl leol ar gam cyntaf y prosiect hwn ac rydym wedi gweithio gyda phenseiri i fireinio syniadau ac ymgorffori adborth.  Mae’r cam nesaf hwn o ymgynghori yr un mor bwysig i sicrhau ein bod yn darparu gwelliannau sy’n fwyaf addas ar gyfer yr hyn y mae trigolion, busnesau ac ymwelwyr eu heisiau a’u hangen.  Mae’r dyluniadau newydd yn cynnig cynnig cyffrous ar gyfer yr hyn y gallai Monnow Street, calon Trefynwy, edrych fel yn y dyfodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich barn gyda ni.” 

Bydd nifer o gyfleoedd ymgysylltu wyneb yn wyneb ar gael i drigolion.  Gall pobl ddod i gwrdd â Swyddogion Cyngor Sir Fynwy, aelodau’r cabinet a’r tîm dylunio ar y Stryd Fawr ar 22 Sgwâr Agincourt, Trefynwy (sef Ruby Tuesday’s gynt) ar ddydd Sadwrn 11eg Chwefror rhwng 10am a 5pm ac ar ddydd Mercher 15fed Chwefror rhwng 10am ac 8pm.

Fel arall, gall pobl ymweld â Hyb Cymunedol Trefynwy yn ystod yr oriau agor rhwng dydd Gwener 17eg Chwefror a dydd Sadwrn 4ydd Mawrth, er mwyn gweld y byrddau arddangos. Bydd gwefan gyda dyluniadau a dolen at arolwg i bobl ei gwblhau, bydd yr arolwg ar agor o ddydd Sadwrn 11eg Chwefror tan hanner nos dydd Sul 5ed Mawrth 2023. Bydd copïau papur o’r arolwg a blychau post hefyd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy, Neuadd y Dref, a Hyb Cymunedol Trefynwy.  Mae dyluniadau llawn a’r arolwg i’w gweld yn https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ymgynghoriad-monnow-street-2023/

Unwaith y bydd ymatebion ac adborth yr arolwg wedi’u derbyn, yna bydd dyluniadau’n cael eu cwblhau’n derfynol a bydd Cyngor Sir Fynwy yn defnyddio’r cynigion i sicrhau cyllid i adeiladu’r cynllun.