Skip to Main Content

Diolch i bawb  sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer tir y cyhoedd   a’r gwelliannau teithio llesol i Stryd Monnow, neu sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad un i un gyda busnesau neu’r  gweithdai ar gyfer rhanddeiliaid er mwyn helpu datblygu’r dyluniad.

Roedd mwy na 480 o bobl wedi mynychu’r sesiynau ymgynghori galw heibio yn Chwefror  

a 546 o bobl wedi ymateb i’r ymgynghoriad naill ai ar-lein neu drwy lenwi arolwg papur.     Mae’r ymgynghoriad ar gau nawr ond mae dal modd i chi weld y cynigion ar gyfer  Stryd Monnow yma …

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn paratoi adroddiad ymgynghori a fydd yn darparu gwybodaeth ar y broses ymgynghori a’r adborth sydd wedi ei dderbyn.   

Unwaith ein bod wedi ystyried yr holl wybodaeth sydd wedi ei gasglu yn ystod yr ymgynghoriad a’r broses ddylunio, bydd y cynigion yn cael eu cyflwyno mewn adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Lleoedd ar ddydd Mercher 19eg Ebrill 2023.

Bydd yr adroddiad ar gael ar y calendr o’r cyfarfodydd misol saith diwrnod cyn y cyfarfod. Mae disgwyl i’r Cabinet i ystyried y cynigion ar 3ydd Mai 2023.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Claire Sullivan: clairesullivan@monmouthshire.gov.uk / 07870 489158