Skip to Main Content
Llun yn dangos: y rhes gyntaf, y Cyngh. Martyn Groucutt gyda Gary Corbett yn cynrychioli Morgan Sindall. I’r dde, gan ddechrau ar y tu allan, mae  Darren Rhys Thomas (Morgan Sindall) ac yna Hyuel Davies a Scott Thoman (Integrated Fencing). I’r chwith, gan ddechrau ar y tu allan, mae     Gareth James, Dylan Morris ac Ayla Hulse (pob un o Morgan Sindall).
Llun yn dangos: y rhes gyntaf, y Cyngh. Martyn Groucutt gyda Gary Corbett yn cynrychioli Morgan Sindall. I’r dde, gan ddechrau ar y tu allan, mae  Darren Rhys Thomas (Morgan Sindall) ac yna Hywel Davies a Scott Thoman (Integrated Fencing). I’r chwith, gan ddechrau ar y tu allan, mae     Gareth James, Dylan Morris ac Ayla Hulse (pob un o Morgan Sindall). 

Yn y bythefnos gyntaf o apêl Dymuniadau Nadolig Cyngor Sir Fynwy, mae anrhegion a rhoddion wedi eu cyfrannu gan drigolion a busnesau hael ar draws y sir. Mae’r apêl flynyddol yn cynnig llawenydd y Nadolig i rai o blant a phobl ifanc bregus y sir na fyddai fel arall yn derbyn unrhyw anrhegion o bosib  dros gyfnod yr ŵyl. Mae’r apêl eleni yn cael ei chynnal  tan 18fed Rhagfyr ac er gwaetha’r heriau y mae pobl yn wynebu gyda’r Argyfwng Costau Byw, mae’r gymuned wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn helpu. 

Dywedodd y Cyngh. Groucutt, Aelod Cabinet ar gyfer Addysg: “Hoffem ddiolch o galon i bob un person sydd wedi cyfrannu rhodd ar gyfer yr apêl, boed yn arian ar-lein o unrhyw swm neu’n anrheg. Bydd pob rhodd  yn gwneud gwahaniaeth i’r plant a phobl ifanc mwyaf bregus yma yn Sir Fynwy. Mae’r ffaith ein bod wedi cael ymateb mor dda, mewn blwyddyn mor anodd, yn dyst i garedigrwydd ac ysbryd y gymuned y bobl yn Sir Fynwy.”

Heddiw, mae cynrychiolwyr y cwmnïau sydd yn gweithio ar ysgol pob oed newydd yn Fenni wedi dod at ei gilydd ar y safle er mwyn trosglwyddo rhoddion ar gyfer y bobl ifanc i’r Cyngh.  Martyn Groucutt. Bydd yr anrhegion yn cael eu cyfrannu i blant a phobl ifanc bregus fel rhan o’r apêl Dymuniadau’r Nadolig sydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Fynwy.  

Roedd yr holl roddion wedi eu derbyn gan y Cyngh. Groucutt wedi i Gary Corbett eu cyflwyno ar ran y cwmni adeiladu, Morgan Sindall, a chynrychiolwyr o  Integrated Fencing, Morgan’s of Usk a chwmni Sgaffaldau Cass, a oedd hefyd wedi noddi’r rhodd.

Dywedodd y Cyngh. Martyn Groucutt, Aelod Cabinet ar gyfer Addysg: “Rwy’n falch iawn i dderbyn y rhodd yma ar ran Cyngor Sir Fynwy eleni ar gyfer yr apêl Dymuniadau’r Nadolig. Mae adeiladu ysgol pob oed newydd y Fenni yn brosiect cymunedol ym mhob un ystyr, ac mae’r rhodd yma gan y cwmnïau sydd yn gweithio ar y safle yn adlewyrchu hyn.  

“Mae Morgan Sindall a’r tîm o gontractwyr wir wedi bwrw ati gyda’r gwaith ar yr ysgol newydd. Mae’r gilfan fysiau dros dro maes parcio ar gyfer cerbydau ychwanegol a’r man gollwng ar gyfer y rheini, maes chwarae ar gyfer pob tywydd a’r man cymdeithasu oll wedi eu cwblhau. Mae’r tîm wedi gwneud cynnydd ardderchog hefyd, er yr hydref gwlyb iawn, yn paratoi’r safle ar gyfer gosod y sylfeini yn y Flwyddyn Newydd.”

Dywedodd Steve Langford, Rheolwr Prosiect ar gyfer Morgan Sindall: “Rydym yn disgwyl ymlaen  i’r gwanwyn pan fydd y strwythur yn dechrau ymddangos o’r ddaear a bod y gwaith sylweddol sydd wedi ei wneud hyd yma yn medru cael ei weld gan eraill. 

“Roeddem wrth ein bodd ein bod yn medru cyfrannu i’r apêl Dymuniadau’r Nadolig ac rydym wir yn gobeithio y bydd hyn yn dod â gwên i wynebau plant adeg y Nadolig.”

Mae’r apêl Dymuniadau’r Nadolig yn cael ei chynnal tan 18fed Rhagfyr. Os hoffech ddysgu mwy, yna ewch i Helpwch Wireddu Dymuniadau’r Nadolig ar gyfer plant a phobl ifanc bregus Sir Fynwy  –  Sir Fynwy. Mae modd i chi adael unrhyw roddion yn Neuadd y Sir, Brynbuga ac unrhyw Hyb Cymunedol, neu ewch i: Christmas Wishes a chliciwch ar WASANAETHAU  dewis ‘Christmas Wishes’ neu ffoniwch 01633 644644 gydag opsiwn 5 am help. 

Tags: