Skip to Main Content

Bydd Cabinet Cyngor Sir Fynwy yn trafod cynnig i roi prydles 12 mis ar gyfer hen Ganolfan Ddydd Tudor Street yn y Fenni i’r grŵp cymunedol The Gathering.

Bydd y Cabinet yn trafod yr argymhellion yn ei gyfarfod nesaf ar 21ain Awst 2024.

Ffurfiwyd The Gathering yn 2023 i gefnogi unigolion ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl ac anghenion ychwanegol. Ers Ionawr 2024, mae The Gathering wedi bod yn cynnal gweithgareddau yng Nghanolfan Gwybodaeth Lles CSF (yr hen Ganolfan Groeso yn y Fenni) am ddau ddiwrnod yr wythnos.

Mae’r cynnig prydles 12 mis hwn yn gam sylweddol tuag at alluogi The Gathering i wireddu ei weledigaeth ar gyfer yr hen ganolfan ddydd yn Tudor Street. Bydd y cytundeb yn trosglwyddo cyfrifoldeb yr adeilad (gan gynnwys costau rhedeg ac atgyweirio/cynnal a chadw) i’r grŵp, gan eu galluogi i adleoli eu gweithrediadau presennol o’r Ganolfan Llesiant i’r eiddo mwy yn Tudor Street.

Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu model gwasanaeth, gweithgareddau, a chynllun ariannol, a thrwy hynny ddangos hyfywedd eu cysyniad. Mae’r cynllun busnes a gyflwynwyd gan The Gathering yn amlinellu ystod o ddefnyddiau posibl ar gyfer yr eiddo, gan gynnwys gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar les, addysg a phrofiad gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch:
“Yn dilyn misoedd lawer o ddeialog gyda The Gathering, lle rydym wedi bod yn eu cefnogi i ddatblygu eu gweithgareddau a’u cynllun busnes, mae’n bleser gennyf ddod â’r argymhelliad hwn i’r Cabinet. Drwy roi prydles 12 mis iddynt ar gyfer Tudor Street, bydd The Gathering yn cael defnydd llawn amser o leoliad mwy a mwy hygyrch lle gallant adeiladu ar y gwasanaethau gwych y maent yn eu cynnig i’r gymuned leol. Fel Cyngor, byddwn yn parhau i’w cefnogi drwy gydol y flwyddyn dros  y 12 mis nesaf, a diolchaf iddynt am eu hymroddiad i wasanaethau cymunedol.”

Tags: ,