Skip to Main Content

Trefnir gan GAVO, Cyngor Sir Fynwy a  MHA

Yn ddiweddar, roedd Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol Sir Fynwy wedi cynnal Digwyddiad Cymunedau Ffyniannus, sydd wedi’i ddisgrifio fel “llwyddiant aruthrol”.

Daeth y digwyddiad â mwy na 40 o sefydliadau lleol a o aelodau cymunedol ynghyd, a fu’n archwilio ystod o gyfleoedd gwirfoddoli, hobïau a gwasanaethau.

Cafwyd adborth cadarnhaol gan fudiadau yn amlygu effaith y digwyddiad ar ehangu eu gwasanaethau, meithrin rhwydweithio gyda sefydliadau eraill, a recriwtio gwirfoddolwyr yn llwyddiannus.

Denodd y gweithdai bresenoldeb sylweddol, gyda phobl yn cofleidio eu plentyn mewnol yn sesiwn Syrcas Cymunedol Cas-gwent (gan gynnwys y Cynghorydd Angela Sandles).

Roedd y panel drafod arbenigol ar gyllido yng Nghymru yn llwyddiant, gan roi cipolwg amhrisiadwy i’r sawl a fynychodd am y maes ariannu.

Roedd Hyb Magwyr a Gwndy, gyda’i gyfleusterau o’r radd flaenaf a’i leoliad delfrydol, yn lleoliad perffaith, a gobeithiwn fod y digwyddiad wedi cyfrannu at roi’r lleoliad newydd hwn ar y map.

Dywedodd y Cynghorydd Sandles: “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant aruthrol y digwyddiad Cymunedau Ffyniannus, a gynhaliwyd gan Rwydwaith Gweithredu Cymunedol Sir Fynwy. Roedd yn wirioneddol galonogol gweld y gymuned yn uno ac yn sefydlu cysylltiadau sydd heb os yn paratoi’r ffordd ar gyfer cydweithio cadarnhaol wrth symud ymlaen. “Mae ein diolch o galon i Hyb Magwyr a Gwndy, yn ogystal â’n partneriaid GAVO, MHA, a’r holl stondinwyr, am eu rôl allweddol wrth wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol.”

Cysylltwch gyda ni: Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol/Ffurflen Gofrestru Be Community

Kari Davies Rheolwr Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy, Rachel Knight MHA, Cyngh. Angela Sandles, Chris Irving a Beth Warrington GAVO, Fred Weston CSF.

Gweithdy Atgofion gyda Monlife Heritage

Gweithdy Gwella Mannau Gwyrdd Bychain gan Cadwch Gymru’n Daclus

 Gwneud Cawl Nwdls gyda’r Cookalong Clwb

Sgiliau Syrcas a Gyflwynir gan Syrcas Cymunedol Cas-gwent

Panel Drafod Arbenigol  ar Ariannu yng Nghymru, Sharran Lloyd CSF, Alison Palmer GAVO, Michael Dupree Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sian Baker Maurice WCVA Cymru.

> Cliciwch i weld rhestr o fudiadau cymunedol a grwpiau yn y digwyddiad >

Propsiectau Elusen Bridges

Elusen yn Sir Fynwy sy’n cynnig nifer o wasanaethau allgymorth yn cynnwys gwasanaeth cyfeillio, cynllun car cymunedol, prosiectau cynhwysiant ar gyfer plant ac oedolion gydag anghenion ychwanegol, grwpiau gweithgaredd cymdeithasol a phrosiect gwirfoddoli.

📧Cyswllt: marianne.piper@bridgescentre.org.uk

Ready Steady GO

Elusen sy’n cefnogi plant a phobl ifanc awtistig a’u teuluoedd,

📧Cyswllt: admin@readysteadygoclun.co.uk

Cynghorwyr Dwyain Magwyr a Gwndy

Ar gael i ateb cwestiynau am faterion lleol gan breswylwyr,

📧Cyswllt: angelasandles@monmouthshire.gov.uk, jogncrook@monmouthshire.gov.uk

Siopau Amlddefnyddio Sir Fynwy

Wedi eu lleoli yng nghanolfannau ailgylchu cartrefi Five Lanes a Llan-ffwyst, maent yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i achub eitemau o’r sgipiau a gwerthu yn y siop ar ddyddiau Mercher, gydag elw yn mynd i blannu coed.

📧Cyswllt: rebeccablount@monmouthshire.gov.uk

Syrcas Gymunedol Cas-gwent

Grŵp ar gyfer pobl i ymarfer a rhannu sgiliau syrcas, hefyd yn darparu gweithdai ar gyfer grwpiau eraill.

📧Cyswllt: chepstowcircus@gmail.com

Croeso i Gerddwyr Cas-gwent

Grŵp cymunedol gwirfoddol fu’n gweithio i ennill achrediad i Gas-gwent ddod yn rhan o drefi Rhwydwaith Cenedlaethol Croeso i Gerddwyr yn 2012. Mae’n annog pobl i fynd tu fas a mwynhau’r awyr agored drwy gerdded i wella iechyd a llesiant a denu ymwelwyr i’r ardal i gefnogi’r economi lleol.

📧Cyswllt: chepstowwaw@hotmail.co.uk

Lads Lunch

Clwb cinio wythnosol ar gyfer dynion yn Bulwark, yn cynnig pryd twym am ddim a chyfle i ddynion gysylltu â gwneud ffrindiau mewn man croesawgar a thwym. Mae hefyd yn cynnig gofod swyddfa i fudiadau eraill yn ystod oriau agor.

📧Cyswllt: communitykitchen@thebridgechurch.online

Mind Sir Fynwy

Darparu iechyd meddwl ar gyfer oedolion..

📧Cyswllt: stephanie.thomas@mindmonmouthshire.org.uk

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent

Darparu Dewis Cymru, cyfeiriadur ar-lein ar gyfer adnoddau llesiant.

📧Cyswllt: ellys.perry@torfaen.gov.uk

Cymdeithas Hanes Lleol Cil-y-coed a’r Cylch

Cynnal sgyrsiau ac ymweliadau achlysurol yn gysylltiedig â hanes lleol.

📧Cyswllt: caldicothistorysociety@yahoo.co.uk

Usk Together for the Climate

Rhwydwaith o breswylwyr lleol yn cydweithio i ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur drwy godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth, gan gymryd camau ymarferol, datblygu prosiectau lleol, gweithio gyda mudiadau a chreu cymuned gefnogol.

📧Cyswllt: togetherfortheclimateusk@gmail.com

Tîm Plismona Cymdogaeth Glannau Hafren

Darparu cefnogaeth a chyngor am atal troseddu.

Loteri Fawr Cymru
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi grantiau i fudiadau yn y Deyrnas Unedig i wella eu cymunedau. Gall ein cydlynydd lleol yn Sir Fynwy roi cyngor ar yr ystod cronfeydd sydd ar gael yn lleol a siarad gyda phrosiectau sy’n ystyried gwneud cais am gyllid.

📧Cyswllt: Michael.Dupree@tnlcommunityfund.org.uk

Basecamp Cooperative

Darparu ystod o wasanaethau therapiwtig yn cynnwys cwnsela ar gyfer cymunedau cadarn.

📧Cyswllt: projectmanagerbasecamp@protonmail.com

Cymunedau am Waith a Mwy

Cefnogi pobl yn mynd i waith, gan gynnig help gydag ysgrifennu CV, sgiliau a chyngor ar gyfweliadau, chwilio am swydd ac arweiniad ar wneud gwaith, cyrsiau achredig byr yn gysylltiedig â gwaith, cymorth ariannol i ostwng rhwystrau i waith, mentora ac adeiladu hyder a chysylltu gyda chyflogwyr lleol.

📧Cyswllt: ameletukandra@monmouthshire.gov.uk

Adran Tiroedd a Glanhau Cyngor Sir Fynwy

Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y tîm tiroedd a glanhau i wneud Sir Fynwy yn fwy hardd a chyfeillgar i fywyd gwyllt, yn cynnwys pencampwyr sbwriel, Cyfeillion Mannau Gwyrdd a monitoriaid peillwyr.

📧Cyswllt: susanparkinson@monmouthshire.gov.uk

Oergell Gymunedol Magwyr a Gwndy

Atal bwyd rhag cael ei daflu i domen lanw drwy gynnal oergell cymunedol lle gall pobl gael bwyd am ddim o fewn ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’.

📧Cyswllt: magor.undy.cf@gmail.com

Pre-Loved Prom Wear

Helpu pobl na fyddai fel arfer yn medru mynychu eu prom ysgol oherwydd cost dillad prom, drwy ddarparu cyfraniadau o ddilliad prom gan gymunedau lleol. Hefyd yn darparu eco-ddatrysiad i atal taflu pethau i domen lanw a hyrwyddo gwerth hen ddillad neu ddillad ail-law.

📧Cyswllt: melstirling37@hotmail.com

Gyda’nGILYDD Cil-y-coed

Hyb Llesiant Cymunedol yng nghanol Cil-y-coed. Cynigiwn ystod o wasanaethau llesiant, clybiau a grwpiau hobi.

📧Cyswllt: isla.arendell@gavo.org.uk

Cadwch Cymru’n Daclus

Elusen yn cefnogi gweithredu gwirfoddol i wella’r amgylchedd lleol.

📧Cyswllt: thomas.ward-jackson@keepwalestidy.cymru

Ffederasiwn Sefydliad y Merched Gwent

Y sefydliad mwyaf i fenywod ym Mhrydain, gyda 43 Sefydliad a thua 1,300 aelod yn Ffederasiwn Gwent. Mae’n cynnig cyfle i fenywod i wneud ffrindiau a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, dysgu sgiliau newydd, crefftau, chwaraeon a llawer mwy mewn amgylchedd cymdeithasol, diogel a hamddenol.

🌐Cyswllt: https://gwent.thewi.org.uk/contact-us

Lions Cas-gwent a Chil-y-coed

Mudiad gwasanaeth cymunedol.

📧Cyswllt: chepstowcaldicotlions@btinternet.com

Cymdeithas Alzheimer

Cefnogi pobl a’u gofalwyr y mae dementia yn effeithio arnynt.

📧Cyswllt: chris.hodson@alzheimers.org.uk

Clwb Pêl-rwyd Phoenix (gynt Clwb Pêl-rwyd Magwyr a Gwndy)

Clwb pêl-rwyd cymunedol ar gyfer pob rhyw ac o 7 oed i fyny.

🌐Cyswllt: https://www.facebook.com/groups/1271178783374616/

GAVO

Nod Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent yw creu cymdeithas lle mae cymunedau, unigolion, sefydliadau partner a’r trydydd sector yn cydweithio i adeiladu dyfodol cynaliadwy drwy gefnogi, hwyluso a threfnu newid cadarnhaol yn llesiant pobl a chymunedau drwy ddulliau gweithio ar y cyd. Mae gennym gyfoeth o brofiad mewn gwirfoddoli, datblygu cymunedol a phrosiectau, meithrin cyfalaf cymdeithasol ac ymgysylltu gyda chymunedau.

📧Cyswllt: bethan.warrington@gavo.org.uk

Age Cymru – Prosiect HOPE

Cynnig cymorth eiriolaeth am ddim i unrhyw un dros 50 oed neu eu gofalwr, os yn briodol.

📧Cyswllt: michael.mitchell1@agecymru.org.uk

Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA)

Tîm Ymgysylltu/iConnect – Y Tîm Ymgysylltu yw braich datblygu cymunedol MHA sy’n gweithio i rymuso a chryfhau cymunedau a gwrando ar lais tenantiaid a phrydleswyr MHA ledled Sir Fynwy.

iConnect – Anelu i ddod â’r byd digidol i flaenau bysedd pawb sy’n hyrwyddo ffyrdd rhwydd a fforddiadwy o gysylltu a gwella sgiliau digidol, gan sicrhau na chaiff neb eu hallgau o fanteision byd digidol.

📧Cyswllt: engagement.team@monmouthshirehousing.co.uk

Pobl Ifanc a Chymunedau

Darparu cysylltiadau cymunedol, cwnsela a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n ofalwyr.

📧Cyswllt: nathanmeredith@monmouthshire.gov.uk

The Cookalong Clwb

Grymuso plant gyda hyder yn y gegin, sgiliau bywyd hanfodol ac yn cefnogi bwydo boliau, nid y bin bwyd.

📧Cyswllt: hello@thecookalongclwb.co.uk

Treftadaeth MonLife

Mae dysgu yn darparu ystod o adnoddau a gweithgareddau ar gyfer pobl a’u gofalwyr sy’n byw gyda dementia, yn cynnwys hel atgofion a blychau trin eitemau hanesyddol, sesiynau hel atgofion gyda hwylusydd a gweithdai crefft a sgwrs. Hefyd yn darparu hyfforddiant atgofion i rai sy’n rhoi gofal a gweithwyr gofal.

📧Cyswllt: karinmolson@monmouthshire.gov.uk

Iechyd yr Amgylchedd

Yma i roi cyngor ac arweiniad i brosiectau cymunedol sy’n trin bwyd.

📧Cyswllt: samwatkins@monmouthshire.gov.uk, niachappell@monmouthshire.gov.uk

U3A Sir Fynwy

Cynnig ystod eang o grwpiau diddordeb arbennig a drefnir gan aelodau ar gyfer pobl nad ydynt mwyach mewn gwaith llawn-amser, gan annog astudiaeth anffurfiol, diddordebau hamdden, hobïau, cerddoriaeth, creadigrwydd, gweithgaredd corfforol a chymdeithasu.

🌐Cyswllt: https://monmouthu3a.com/contact-us/

Halls Together yn Sir Fynwy a Chasnewydd

Prosiect sy’n dod â neuaddau ynghyd drwy ddarparu llwyfan gwefan i neuaddau  farchnata eu hadeiladau a digwyddiadau cymunedol a chodi safonau drwy ddarparu cymorth, gwybodaeth i wirfoddolwyr.

📧Cyswllt: ourhallstogether@gmail.com

Cyngor Gweithredu Wirfoddol Cymru (WCVA)

Galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud gwahaniaeth mwy gyda’i gilydd, gan gydweithio’n agos gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol lleol fel rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’r ffocws ar lywodraethiant da, dylanwadu ac ymgysylltu, gwirfoddoli ac adnoddau ar gyfer sector cynaliadwy.

📧Cyswllt: sbakermaurice@wcva.cymru

Canolfan Dyled CAP Cas-gwent a’r Cylch

Cynnig cyngor a chymorth dyled am ddim yn y cartref a hefyd yn cynnal cyrsiau trefnu cyllideb/trin arian.

📧Cyswllt: davidprice@capuk.org

Tîm Profiad ac Ymgyfraniad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Blaenau Gwent

Cynnig Ymwybyddiaeth Dementia, Gwirfoddoli, Ffactorau Risg Dementia, Addysg Gofalwyr a Gwrandawyr Cymunedol.

📧Cyswllt: sian.hanniford@wales.nhs.uk

Tîm Datblygu Cymunedol Sir Fynwy

Rydym am bobl yn gwneud pethau gwych gyda’i gilydd. Ar draws Sir Fynwy, mae pobl yn dod ynghyd i weithredu ar y pethau sy’n bwysig iddynt. Rydym yn helpu pobl i rannu syniadau, talentau, sgiliau ac angerdd i wneud gwahaniaeth lle maent yn byw. Dewch i gysylltiad os hoffech chi fod yn fwy cysylltiedig â’ch cymuned neu os oes gennych syniad gwych am rywbeth i ddod â phobl ynghyd. Gallwn helpou gyda phethau fel:
o Canfod cyllid
o Darparu hyfforddiant a datblygu am ddim
o Adolygu rhwydweithiau cefnogaeth
o Annog pobl eraill i’ch helpu

o Dod o hyd i leoliad
o Hyrwyddo eich syniad
o Eich helpu gydag unrhyw reoleiddio a biwrocratiaeth
o Gwybodaeth am lesiant a chefnogaeth i’ch cysylltu gyda chyfleoedd

📧Cyswllt: wellbeing@monmouthshire.gov.uk

Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen

Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen yn rhoi help a chyngor i bobl hŷn i barhau’n ddiogel, saff ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

📧Cyswllt: dgrant-crichton@crmon.org.uk

Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.