Skip to Main Content

Mae pethau yn newid ar gyfer prydau ysgol yn Sir Fynwy.

O fis Medi 2022 mae pob plentyn ysgol fabanod/plant cyfnod sylfaen yn gymwys ar gyfer cinio ysgol yn rhad ac am ddim. Gwiriwch wefan eich ysgol ar gyfer ein bwydlen a chysylltwch â’r swyddfa Arlwyo Ysgolion ar gyfer unrhyw anghenion dietegol arbennig, gallwn ddarparu ar gyfer pob anghenion dietegol ond hoffem gwrdd i drafod y rhain cyn dechrau’r gwasanaeth.

Gyda llawer o ddiolch

Y Tîm Arlwyo Ysgolion

Mae prydau ysgol yn costio £2.50. Mae rhieni wedi croesawu cyflwyno Parent Pay, dull newydd ar-lein i dalu am ginio ysgol. Mae’n ffordd gyflym a rhwydd i rieni dalu am giniawau ysgol ar unrhyw amser o’r dydd ac yn ffordd wych i fynd â’r straen allan o edrych am newid mân i dalu am ginio yn y rhuthr ben bore.

Y cyfan sydd angen ei wybod

  • Dau gwrs am £2.50, llai na phris cwpanaid o goffi ar y stryd fawr
  • Mae ysgolion Sir Fynwy yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau talu, sy’n cynnwys dyddiol, wythnosol, misol neu bob tymor ymlaen llaw. Holwch ysgol eich plentyn i gael manylion pellach.
  • Mae dietau arbennig ar gael, holwch eich ysgol i gael mwy o wybodaeth. Mae dalenni alergenau ar gael, fodd bynnag cysylltwch â ni os oes gan eich plentyn unrhyw anghenion dietegol arbennig fel y gallwn gwrdd i drafod eu hanghenion. Medrir paratoi bwydlen i weddu i ofynion unigol eich plentyn.

Parent Pay

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymestyn y system taliadau ar-lein ‘Parent Pay’ i’w holl ysgolion cynradd yn ddiweddar. Mae hyn yn dod â’r systemau talu ar-lein yn gyfredol gan sicrhau y gall pawb fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer bywyd ysgol eu plentyn. Gall rhieni gael mynediad i’w cyfrifon  drwy eu ffôn clyfar, dyfais llechen neu gyfrifiadur, gan roi’r gyfriflen ddiweddaraf o daliadau i’r ysgol o unrhyw le y mae gennych signal. Bydd yn rhoi cyfle i chi dalu am brydau ysgol, tripiau ac eitemau eraill o gysur eich cartref eich hun, gyda sicrwydd gwybod os cafodd eich plentyn ginio poeth ar unrhyw ddiwrnod penodol.  Mae’n gostwng yr effaith ar yr amgylchedd ac yn arbed arian ar adnoddau gwerthfawr y gellid eu gwario mewn man arall drwy ddileu’r angen am lythyrau ym mag eich plentyn bob wythnos.

Cliciwch ar y dogfennau i gael gwybodaeth ddefnyddiol am ddefnyddio system ParentPay.