Skip to Main Content

Mae pris casgliad gwastraff gardd fesul bin ar gyfer tymor 2023 wedi ei gadarnhau fel £50.

Mae manylion llawn penderfyniad y Cabinet yn cadarnhau’r pris, o ddydd Mercher 18fed Ionawr 2023, i’w gweld yma: Agenda a phenderfyniadau

Cytunwyd hefyd y byddwn yn darparu casgliad ychwanegol ym mis Ionawr i gynnwys cwymp dail ac i gasglu coed Nadolig.

Pam mae’r pris wedi cynyddu?

Mae’r Cyngor yn wynebu pwysau sylweddol ar y gyllideb wrth symud ymlaen.  Mae’r Cyngor yn gwario gwerth £720,000 y flwyddyn yn casglu gwastraff gardd. Daw’r tâl presennol ag incwm o £420,000.

Symudodd Sir Fynwy o gasgliad sachau wythnosol â thâl i gasgliad bin olwyn bob pythefnos â thâl yn 2020/21. Pwrpas hyn oedd gwella’r gwasanaeth i drigolion, gwella iechyd a diogelwch i gasglwyr a lleihau cyfraniad ariannol Cyngor Sir Fynwy, yn dilyn gostyngiadau blynyddol o arian grant gan Lywodraeth Cymru.

Y cynnig gwreiddiol oedd codi tâl o £35 am y gwasanaeth a oedd yn rhedeg o fis Mawrth 1af i Dachwedd 30ain. Ymgynghorwyd â hyn yn eang a chymerwyd yr adroddiad drwy Bwyllgor Dethol a thrwy Weithdy Aelodau lle cytunwyd ar ffi ddiwygiedig o £28, a’i chymryd drwy’r Cyngor i’w gymeradwyo.

Mae casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth nad yw’n statudol, felly’n un â thâl. Gall y gwasanaeth adennill costau llawn casgliadau ond rhaid iddynt beidio ag adennill costau ar gyfer yr elfen waredu.

Doedd dim cynnydd yn y costau yn 2022/23.  Am £28, roedd y cynllun yn rhoi gwerth ardderchog i breswylwyr ac er gwaethaf pryderon cychwynnol am golli cwsmeriaid, fe arweiniodd hyn at 2000 o gwsmeriaid ychwanegol yn cofrestru. Mae hyn wedi cynyddu nifer y cerbydau a staff sy’n darparu’r gwasanaeth, a gyda chostau uwch o ran cerbydau, tanwydd, cyflogau, cynwysyddion ac ati, roedd angen cyfraniad o £240,000 gan Gyngor Sir Fynwy yn 2022/23.

Mae’r cynnydd o ran taliadau’n angenrheidiol er mwyn talu am y gost lawn o ddarparu’r gwasanaeth.

Ymgynghori

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus gyda chwsmeriaid a thrigolion gwastraff gardd ei gynnal ym mis Rhagfyr 2022 cyn y penderfyniad hwn.

Cawsom 6158 o ymatebion.

Fe ofynnom i drigolion:

Mae’r opsiynau isod yn ceisio lleihau’r cymhorthdal presennol a darparu gwasanaeth hyfyw i’n cwsmeriaid a’n trigolion.  Dewiswch yr opsiwn a ffefrir gennych:
Rhoi’r gorau i’r casgliadau – ni fyddwn yn defnyddio’r gwasanaeth fel y’i nodir yn unrhyw un o’r opsiynau uchod.852
Cadwch amlder y gwasanaeth fel y mae (casgliad bin olwynion bob pythefnos) am £50 y bin y flwyddyn (20 casgliad).4118
Lleihau amlder y casgliadau i bob pedair wythnos am £42.50 y bin y flwyddyn (10 casgliad).761
Lleihau amlder y casgliadau i bob chwe wythnos am £35 y bin y flwyddyn (6 casgliad).427
Cyfanswm6158

Dangosodd y canlyniad y byddai’n well gan 67% o drigolion gadw at gasgliadau bob pythefnos ar gost o £50 y bin.


Cwestiynau Cyffredin

Ble alla i ddod o hyd i’r holl wybodaeth am y penderfyniad?
Mae manylion cyfarfod y Cabinet a’r adroddiad sy’n egluro cefndir y cynnydd mewn prisiau i’w gweld yma:  Agenda a phenderfyniadau

Faint yw’r tâl mewn awdurdodau eraill?
Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu casgliad gwastraff gardd yn rhad ac am ddim.  Fel arfer, dyma sefyllfa lle mae awdurdodau lleol yn methu â chyrraedd targedau ailgylchu ac angen y tunelledd gwastraff gardd ychwanegol i gyrraedd y targed sy’n statudol. Mae pob awdurdod yn ariannu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn wahanol, ac yn blaenoriaethu cyllid ar sail angen ehangach ledled y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru o blaid codi tâl am gasgliadau gwastraff gardd.

Pan fo awdurdodau lleol yn codi tâl, mae’r tâl yn debyg i Sir Fynwy.  Yn 2022/23 y taliadau gwasanaeth oedd:  Powys £40, Fforest y Ddena £45, a Sir Benfro £52 am gasgliad bob pythefnos o finiau 240ltr. Mae llawer mwy o awdurdodau lleol yn adolygu codi tâl am wastraff gardd mewn ymateb i bwysau cyllidebau.

Sut ymgymerwyd â’r ymgynghoriad?
Roedd yr ymgynghoriad ar agor o’r 22ain Tachwedd i’r 12fed Rhagfyr. Cafodd cwsmeriaid gwastraff gardd presennol e-bost ynglŷn â’r ymgynghoriad.

Cafodd canlyniadau’r ymgynghoriad eu rhoi mewn adroddiad, gydag argymhelliad ar gyfer y gwasanaeth wrth symud ymlaen. Aeth hyn drwy broses graffu ar gyfer penderfyniad Cynghorwyr ar y canlyniad ym mis Ionawr 2023.

Mae canlyniadau’r broses ymgynghori, a’r broses benderfynu, i’w gweld uchod.

Pam fod y pris yn cynyddu?
Mae’r Cyngor yn wynebu pwysau sylweddol ar y gyllideb wrth symud ymlaen.  Bydd yr opsiynau pris arfaethedig yn talu’r gost lawn o ddarparu’r gwasanaeth.

Nid yw’r gwasanaeth wedi gweld cynnydd mewn pris ers 2021/22 a bryd hynny cafwyd cymhorthdal o £7 y bin ei ddarparu drwy arian grant allanol. Y cynnig gwreiddiol oedd codi tâl o £35 am y gwasanaeth.

Ni chynyddwyd y gost yn 2021 pan gafodd y gwasanaeth ei effeithio gan Covid-19.  Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghostau gwasanaethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, megis prisiau tanwydd uwch.

Mae casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth nad yw’n statudol, felly’n un â thâl, lle mae’r preswylwyr yn dewis derbyn y gwasanaeth.

Pam nad yw’r gwasanaeth hwn yn dod o dan daliadau treth y cyngor?
Mae casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth casglu gwastraff nad yw’n statudol, felly’n un â thâl. Gall y gwasanaeth adennill costau llawn casgliadau ond rhaid iddynt beidio ag adennill costau ar gyfer yr elfen waredu.

Mae casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth nad yw’n statudol, felly’n un â thâl, lle mae’r preswylwyr yn dewis derbyn y gwasanaeth. Mae nifer o opsiynau ar gael i breswylwyr nad ydynt am dderbyn y gwasanaeth trin gwastraff gardd, gan gynnwys, compostio cartref (mae Cyngor Sir Fynwy’n darparu compostwyr cartref ar bris cost drwy’r siop ailddefnyddio), dosbarthu deunydd i un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, compostio cymunedol ar randiroedd sy’n cymryd rhan ac ati.

Pam nad yw’r gwahanol opsiynau yn darparu’r un gost fesul casgliad?
Mae costau sefydlog o ddarparu gwasanaeth casglu na ellir ei leihau’n fawr wrth barhau i ddarparu gwasanaeth.

Ni ellir haneru costau casglu (megis cerbydau, biniau a staff) drwy haneru amlder y casgliadau. Felly nid yw’r opsiwn gwasanaeth misol yn cyfateb i hanner pris yr opsiwn pythefnosol.


Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth gwastraff gardd presennol ewch i’n tudalen gwastraff gardd