Skip to Main Content

Sut mae’ch arian yn cael ei wario a beth sydd yn rhan o’ch bil

Mae’r dreth gyngor yn helpu ariannu gwasanaethau lleol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, gwasanaethau casglu gwastraff, goleuo’r strydoedd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer iawn mwy.   

Mae’r dreth gyngor yn cael ei thalu gan yr aelwyd ac yn seiliedig ar werth eich eiddo. Bydd y swm y mae’n rhaid talu yn ddibynnol ar ba  fand yw eich tŷ. Mae’r bandiau yma yn cael eu pennu gan y Swyddfa Brisio.   

Mae’r swm yr ydych yn talu hefyd yn ddibynnol ar ydych yn gymwys i elwa o unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.     

Ewch i ddarllen nodiadau esboniadol am y Dreth Gyngor  am fwy o wybodaeth. 

Faint sy’n rhaid i mi dalu?

Er mwyn cadarnhau faint o dreth gyngor y mae’n rhaid i chi dalu,  bydd angen cadarnhau ym mha fand cyngor cymuned a threth gyngor yw eich eiddo. Rydych wedyn yn medru gwirio hyn yn erbyn ein.

Yn seiliedig ar eiddo Band D cyfartalog,  y ffi ar gyfer 2023/24 yw £1,959.94, o’i gymharu gyda £1,847.25 yn 2022/23.  Mae hyn wedi ei rannu fel a ganlyn:

 2022/232023/24% Cynnydd  
Cyngor Sir Fynwy£1,476.79£1,564.665.95
Comisiynydd Heddlu a Throseddu£303.80£324.526.82
Cyngor Cymuned£66.66£70.766.15
CYFANSWM£1,847.25£1,959.946.10

Mae’r Dreth Gyngor yn cynnwys tair elfen:

Mae cyllideb Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2023/24 yn cynnwys cynnydd treth gyngor o   5.95%. 

Y gyllideb refeniw  gros ar gyfer yr Awdurdod  (gan gynnwys y praeseptau ar gyfer  Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a’r Cyngor Cymuned) yw £208,515,191.  Mae hyn yn cynnwys y cynllun i wario £3,509,050 o refeniw wrth gefn. Mae’r rhagolygon o’r refeniw wrth gefn y mae modd ei wario yn debygol o fod yn £15,634,717 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae’r gyllideb sydd wedi ei pharatoi yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiadau, er enghraifft:

  • £2.5m mwy yn cael ei fuddsoddi yn ein hysgolion
  • £3.6m mwy yn y plant hynny sydd yn y system gofal
  • £1.9m er mwyn sicrhau nad oes rhaid i neb gysgu yn yr awyr agored 
  • £1m ychwanegol er mwyn talu am ofal ar gyfer aelodau hŷn ein cymunedau
  • £0.5m pellach yn y gost o gynnal heolydd, palmentydd a seilwaith priffyrdd eraill   

Am fanylion ynglŷn â sut y mae’r arian yma yn cael ei wario, ewch i yma.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent wedi cynyddu’r swm sydd ei angen gan drethdalwyr yn  2023/24 gan 6.82%.  Am fanylion ynglŷn â sut y mae’r arian yma yn cael ei wario, ewch i yma.

Cynghorau Cymuned – mae’r ffi Band D cyfartalog ar gyfer 2023/24 wedi cynyddu 6.15%.  Bydd y ffioedd yn amrywio yn ôl y cyngor cymuned a bydd y ffi felly yn ddibynnol ar ble ydych yn byw.     

Er mwyn medru gweld y gwariant blynyddol disgwyliedig a’r ffi Band D ar gyfer y cyngor cymuned lle’r ydych yn byw, ewch i’r fand cyngor cymuned.  Am fanylion ynglŷn â sut y mae’r arian yma yn cael ei wario, mae angen i chi gysylltu gyda’ch cyngor cymuned. Mae’r manylion cyswllt ar gael yma –  manylion cyswllt y Cynghorau Cymuned.