Skip to Main Content

Sut mae’ch treth gyngor yn cael ei wario

Mae’r dreth gyngor yn helpu ariannu gwasanaethau lleol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, gwasanaethau casglu gwastraff, goleuo’r strydoedd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer iawn mwy.  

Mae’r rhan fwyaf o’r dreth gyngor yn mynd i’r Awdurdod Lleol, Cyngor Sir Fynwy, er mwyn gwario ar wasanaethau lleol, ond hefyd, mae rhannau o’r dreth yn mynd i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a’r Cynghorau Cymuned.

Mae’r Cyngor hefyd yn derbyn incwm gan  ardrethi busnes, grantiau llywodraeth, ffioedd eraill – sydd ôl yn cyfrannu at y gost o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.   

Mae’r dreth gyngor hefyd yn cyfrannu at gostau a gwasanaethau eraill  gan gynnwys rheoli adeiladau’r Cyngor, costau sydd yn gysylltiedig gyda pholisi, strategaeth a chyfathrebu, y costau o redeg y gwasanaethau refeniw a’r gwasanaethau budd-daliadau, cyllidebau corfforaethol a’r costau benthyg. 

Cyllideb 2023/24

Mae gwariant y Cyngor yn cael ei rannu’n  ddau gategori – sef refeniw a chyfalaf.

Mae cynllun cyllideb y Cyngor yn cynnwys cynnydd cyffredinol yn y gyllideb refeniw ar gyfer2023/24 yw £208.5 miliwn.

Bydd y gyllideb refeniw yn cael ei hariannu gan:

  • Grant cymorth refeniw o £91.5m
  • Ailddosbarthu’r Ardreth Annomestig o £31.2m
  • Y Dreth Gyngor (CSF) o £66.9m
  • Y Dreth Gyngor (Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent) o £15.5m
  • Y Dreth Gyngor (Cynghorau Cymuned) o £3.4m

Mae’r gyllideb yn bwriadu taro cydbwysedd rhwng y costau cynyddol a’r galw am wasanaethau wrth gefnogi anghenion ein trigolion ifanc a hŷn, ymateb i anghenion y digartref a’n darparu buddsoddiad pellach yn ein seilwaith priffyrdd a chludiant.

Mae cynllun cyllideb y Cyngor yn  cynnwys cyllideb cyfalaf o £45.7 miliwn  ar gyfer 2023/24.  

Bydd y gyllideb cyfalaf yn cefnogi:

  • buddsoddiad pellach yn ein  seilwaith priffyrdd a chludiant gan gynnwys gwaith yn lliniaru llifogydd a’n gwella’r pontydd dros yr Afon Gwy;
  • rheoli’r clefyd  (Chalara) coed ynn a choed peryglus eraill.
  • parhau gyda’r ysgol 3-19 oed newydd yn y Fenni;
  • buddsoddi mewn cynlluniau cynhwysiant gan gynnwys grantiau cyfleusterau i’r anabl a mynediad i’r holl gynlluniau;
  • buddsoddi yn ein TGCh a’n rhwydwaith er mwyn gwella dygnwch y gwasanaethau a ddarperir,

Cliciwch yma er mwyn gweld sut y mae eich Treth Gyngor yn cael ei ddefnyddio er mwyn cefnogi’r gwasanaethau yr ydym yn darparu a ble ydym yn parhau i fuddsoddi yn ein hasedau.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig

Cynllun Ariannol Tymor Canolig pedair blynedd y Cyngor yw sylfaen ein cynllunio ariannol ac mae’n amlinellu’r heriau ariannol a’r risgiau yr ydym yn wynebu yn y tymor canolig. 

Bydd y fersiwn nesaf yn ffocysu ar yr heriau cynyddol gyda  chynnal y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu ar hyn o bryd mewn amgylchedd o alw a chostau cynyddol a’r risgiau a’r ansicrwydd sydd yn ymwneud â’r setliadau ariannol dros y tymor canolig. 

Bydd yn amlinellu’r risgiau, y goblygiadau  a’r effaith o fynd i’r afael gyda’r diffygion yn y gyllideb dros y tymor canolig, gan ffocysu ar y strategaethau sydd ar gael i’r Cyngor er mwyn caniatáu model ariannu cynaliadwy yn y dyfodol sydd yn ceisio cefnogi gwasanaethau cyhoeddus effeithlon ac effeithiol ar gyfer cymunedau Sir Fynwy. Bydd hyn yn gyson gyda’r blaenoriaethau sydd wedi eu hamlinellu yng nghynllun drafft Cymunedol a Chorfforaethol y Cyngor a’r cynlluniau eraill sydd yn llywio hyn

.