Skip to Main Content

UWCHGYNLLUN TRAWSNEWID CAS-GWENT

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Cas-gwent yn gweithio mewn partneriaeth i gynhyrchu Uwchgynllun Trawsnewid Cas-gwent. Bydd y cynllun yn rhoi fframwaith adfywio strategol ar gyfer Cas-gwent, gan lywio buddsoddiad adfywio y dyfodol i sicrhau fod y dref yn ddeniadol, bywiog ac mewn sefyllfa dda i wasanaethu preswylwyr ac ymwelwyr y presennol a’r dyfodol.

RYDYM ANGEN EICH ADBORTH

Rydym angen eich sylwadau ar y cynigion yn y cynllun. Bydd eich adborth yn ein helpu i lywio a rhoi gwybodaeth ar gyfer fersiwn terfynol Uwchgynllun Trawsnewid Cas-gwent. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan. Cofiwch roi adborth i ni ar y cynigion gan ddefnyddio DOLEN YR AROLWG HWN

SUT Y GALLWCH GYMRYD RHAN

Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori lle gallwch weld y cynigion, gofyn cwestiynau a rhoi eich sylwadau. Cynhelir y digwyddiadau hyn ar:

  • Dydd Sadwrn 8 Hydref, 10am i 5pm – Canolfan Palmer, Upper Nelson Street
  • Dydd Mawrth 11 Hydref, 10am i 8pm, Canolfan Gymunedol Bulwark

Caiff gwybodaeth ar a cynigion ei harddangos yn llyfrgell Cas-gwent o 12 Hydref.

Gallwch roi eich sylwadau ar y cynigion drwy lenwi arolwg, fydd ar gael o 5 Hydref naill ai ar-lein yma neu mewn copi caled o swyddfa Cyngor Tref Cas-gwent a llyfrgell Cas-gwent neu drwy anfon e-bost at mccregeneration@monmouthshire.gov.uk a gofyn am gopi caled drwy’r post. Bydd yr arolwg yn cau am 5pm ddydd Sul 30 Hydref.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad ar Uwchgynllun Trawsnewid Cas-gwent, anfonwch e-bost at l mccregeneration@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 07929 726220 os gwelwch yn dda.

Dogfennau

Rhannwch eich Barn

Cofiwch roi adborth i ni ar y cynigion gan ddefnyddio DOLEN YR AROLWG HWN

neu gallwch gwblhau’r arolwg papur (isod) a dod â’ch ffurflen wedi’i chwblhau i Lyfrgell Cas-gwent neu swyddfeydd Cyngor Tref Cas-gwent. Gellir codi copïau caled yno hefyd os nad oes gennych fynediad at argraffydd.  Mae’r arolwg yn cau 5pm Dydd Sul 30 Hydref 2022

Fel arall, gallwch e-bostio mccregeneration@monmouthshire.gov.uk a gofyn am gopi caled o’r arolwg drwy’r post.