Skip to Main Content

Gallwch dalu rhybudd tâl cosb neu RhTC ar-lein, dros y ffôn neu trwy’r post. Gallwch apelio yn erbyn RhTC os ydych chi’n credu iddo gael ei gyflwyno ar gam. Ni fyddwch yn gallu apelio yn erbyn rhybudd tâl cosb ar ôl i chi ei dalu. 

 Sut i herio RhTC  

Bydd angen y rhif RhTC arnoch i dalu, bydd y cyfeirnod RhTC bob amser yn dechrau gyda MM ac yna cyfuniad o lythrennau a rhifau er enghraifft MM12345678 neu MM1234567A. Dim ond os derbynnir taliad o fewn yr amser penodedig (14 diwrnod) y derbynnir y tâl cyfradd is, ar ôl yr amser hwn bydd y tâl yn cynyddu i’w swm llawn. Gallai methu â thalu o gwbl arwain at erlyniad. 

Talu Ar-lein 

Gall gymryd hyd at 24 awr i fanylion eich RhTC gael eu prosesu a’ch manylion ymddangos ar y system – cofiwch hyn os ydych chi’n ceisio talu a’ch rhif RhTC a’ch rhif cofrestru heb gael eu cydnabod. 

Os ydych chi’n talu ar-lein ar ôl cyfnod y gostyngiad o 14 diwrnod, fe’ch anogir i nodi’ch cyfeirnod RhTC a bydd gofyn i chi dalu swm llawn y Rhybudd Tâl Cosb. Bydd system GPDC yn diweddaru eich achos yn awtomatig gyda’r ffi gywir os yw  cyfnod y gostyngiad wedi dod i ben. 

Talu Ar-lein 

Talu dros y Ffôn 

Defnyddiwch y system dalu awtomataidd ar unrhyw adeg drwy alw  033 33 200867. 

Talu drwy’r Post  

Drwy ddefnyddio’r amlen a ddarperir gyda’r RhTC . Ar y llaw arall, os nad oes gennych y waled RhTC bellach, a fyddech gystal â phostio’ch gohebiaeth ysgrifenedig i GPDC, BLWCH POST 112, Pontypridd, CF37 9EL