Skip to Main Content

Cyngor ac Arweiniad Cyffredinol  

Byddwn yn rhoi rhybudd tâl cosb (RhTC) i unrhyw fodurwr nad yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau parcio perthnasol.  

Byddwch yn gallu apelio yn erbyn y cyhuddiad os ydych yn credu iddo gael gyflwyno ar gam. Gellir cyflwyno her yn ysgrifenedig cyn pen 28 niwrnod o ddyddiad ei gyflwyno. Bydd Grŵp Parcio De Cymru (GPDC) naill ai’n derbyn y rheswm (rhesymau) dros herio ac yn canslo’r Rhybudd Tâl Cosb ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth a ddarperir gan y Swyddog Gorfodi Sifil (Prif Swyddog Gweithredol), h.y. ffotogrtaffau ac unrhyw nodiadau ysgrifenedig, neu bydd yn gwrthod yr her ac yn cyflwyno Rhybudd i’r Perchennog (RhiP).  

Gellir cyflwyno sylwadau pellach ar ôl i’r RhiP gael ei gyflwyno. Bydd y RhiP yn nodi’r seiliau dros wneud sylwadau ysgrifenedig a’r modd mae’n rhaid gwneud y sylwadau. 

Os bydd y GPDC yn gwrthod y sylwadau ysgrifenedig, bydd gennych yr hawl wedyn i apelio yn erbyn y penderfyniad yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig (TCT). Mae’r TCT yn darparu dyfarniad annibynnol ar unrhyw Rybuddion Tâl Cosb gaiff eu cyflwyno a’u herio. 

Fodd  bynnag, apêl i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig yw’r cam olaf yn y broses herio. Dim ond ar ôl i chi fynd drwy bob cam yn y broses herio gyda GPDC y gallwch chi drefnu hyn a’ch bod wedi derbyn Rhybudd Gwrthod (RhG) yn gwrthod eich sylwadau ysgrifenedig yn ffurfiol.  

Rhesymau dros Herio  

Gallwch weld y rhesymau dros herio RhTC ar wefan y Tribiwnlys Cosbau Traffig: Seiliau dros apelio Rhybuddion Tâl Cosb  – gwefan Tribiwnlys Cosbau Traffig  

Sut i herio RhTC  

Os heriwch chi Rybudd Tâl Cosb o fewn cyfnod y gyfradd ostyngol o 14 diwrnod a’ch her yn cael ei gwrthod, gallai GPDC estyn y cyfnod y gellir talu’r gyfradd gosb ostyngol o’i mewn.   

Ni allwch apelio yn erbyn RhTC os ydych wedi talu oherwydd cyfrifir taliad fel derbyn y rhybudd. 

Mae dau gam i herio – sylwadau anffurfiol a ffurfiol: 

Gellir gwneud her anffurfiol o fewn 28 niwrnod o ddyddiad cyflwyno’r rhybudd.  

Gellir gwneud sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar ôl i ‘Rybudd i’r Perchennog’ (RhiP) gael ei gyflwyno i berchennog cofrestredig y cerbyd.   

Wrth herio RhTC a fyddech gystal â gwneud yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enweich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt fel y gall GPDC ymateb. 

Her anffurfiol ar-lein  

Defnyddiwch y system ar-lein i wneud her anffurfiol ar  www.swpg.co.uk. Bydd angen i chi gynnwys rhif y RhTC a rhif cofrestru’ch cerbyd. Byddwch wedyn yn gallu gweld y ffotograffau neu’r fideos a gymerwyd o’r cerbyd a gwneud apêl.  

Gwneud sylwadau ffurfiol ar-lein  

Os ydych chi wedi derbyn Rhybudd i’r Perchennog (RhiP) oddi wrth Grŵp Parcio De Cymru (GPDC) mae gennych 28 niwrnod yn cychwyn gyda’r dyddiad y cafodd y rhybudd ei gyflwyno, i naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig ffurfiol neu dalu’r swm sydd heb ei dalu. Os na fyddwch yn talu’r swm neu’n gwneud sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod o 28 niwrnod a nodwyd, gallai’r swm gynyddu 50% a chymerir camau i orfodi taliad. 

Gallwch weld eich ffotograffau RhTC sy’n gysylltiedig â’ch achos chi drwy osod rhif y RhTC ar Wefan Grŵp Parcio De Cymru www.swpg.co.uk gallai hyn fod o gymorth i chi os byddwch yn penderfynu gwneud eich sylwadau ffurfiol.  

Gwneud her drwy lythyr  

Gallwch hefyd wneud her anffurfiol neu wneud sylwadau ffurfiol drwy ysgrifennu at y GPDC, BLWCH POST 112, Pontypridd, CF37 9EL. Ni dderbynnir heriau llafar. 

Os gwrthodir eich sylwadau ffurfiol, bydd GPDC yn anfon rhybudd gwrthod atoch (RhG) gyda gwybodaeth ar y system apelio a ffurflen y gallwch h ei defnyddio os ydych eisiau apelio. Caiff yr apêl ei thrafod gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig, corff annibynnol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol di-droi’n-ôl.   gwefan Tribiwnlys Cosbau Traffig