Skip to Main Content

Beth i’w wneud os cawsoch orchymyn troi allan

Dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y medrwch os cawsoch orchymyn troi allan gan eich landlord. Po gyntaf y byddwch yn gadael i ni wybod, y mwyaf o amser fydd gennym i roi cymorth i chi ddatrys eich problem tai.

Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni, bydd Swyddog Opsiynau Tai yn cymryd Cais Digartref gennych a gwirio eich gorchymyn i sicrhau ei fod yn ddilys. Bydd hefyd yn rhoi cyngor i chi. Yn dibynnu pa mor hir sydd ar ôl ar eich gorchymyn, gallech hefyd gael eich cyfeirio at aelod o’n Tîm Atal Digartrefedd. Mae mwy o wybodaeth am y Tîm Atal Digartrefedd isod.

Beth ddylech chi ei wneud os yw eich landlord wedi dweud wrthych y bydd yn cyhoeddi gorchymyn troi allan?

Dylech ddal i gysylltu â ni os yw eich landlord wedi sôn am fwriad i gyhoeddi gorchymyn troi allan i chi.  Er mai dim ond gydag aelwydydd sydd dan fygythiad digratrefedd o fewn 56 diwrnod y gall ein swyddogion Opsiynau Tai siarad, gallwch ddal gael eich cyfeirio at y Tîm Atal Digartrefedd a all roi cymorth i chi.

Tîm Atal Digartrefedd

Mae’r Tîm Atal Digartrefedd yn rhan o’r Tîm Opsiynau Tai ac maent yn gweithio gydag aelwydydd sydd dan fygythiad neu mewn risg o ddod yn ddigartref. Byddant yn gweithio gyda chi drwy gydol eich taith tai.

Gall y Tîm Atal Digartrefedd roi cymorth i chi gyda’r dilynol:

  • Trafod/cydlynu gyda’ch landlord;
  • Uchafu eich incwm;
  • Eich helpu i edrych am gartref newydd.

Ffoniwch: 01633 644 644

E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Beth i’w wneud os ydych yn ei chael i anodd gwneud taliadau tai

P’un ai yn denant yn y sector cymdeithasol neu’r sector preifat, neu os oes gennych forgais, mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch landlord neu fanc cyn gynted ag sydd modd os credwch y byddwch yn cael anhawster i dalu eich costau tai, gan y gall fod modd iddynt eich helpu.

Os nad yw hyn yn bosibl, neu os ydych angen cymorth ychwanegol, gallwch wneud cais am help gyda’ch costau tai drwy’r Cynllun Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai neu’r Gronfa Atal Digartrefedd (mwy o wybodaeth isod).

Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHO)

Mae taliadau disgresiwn at gostau tai yn daliadau tymor byr i’ch helpu i dalu eich rhent. Gellir eu defnyddio i ychwanegu at renti neu ar gyfer rhent os ydych yn canfod fod eich amgylchiadau yn newid yn sydyn.

I gael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, bydd angen i chi naill ai fod yn derbyn Budd-Dal Tai yr hen gynllun neu’r elfen cyfraniad tai drwy Credyd Cynhwysol a bydd angen i chi brofi eich bod angen help ychwanegol.

Mae Cyngor Torfaeth yn gweinyddu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar eich rhan. Mae mwy o wybodaeth ar Daliadau Disgresiwn ar Gostau Tai a sut i wneud cais ar gael yma (cliciwch i fynd i wefan Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai).

Cronfa ar Ddisgresiwn Atal Digartrefedd

Mae gan Gyngor Sir Fynwy gronfa fach ar hyn o bryd i gynorthwyo’r rhai sydd dan fygythiad digartrefedd i naill ai eich helpu i gadw eich llety presennol neu i gynorthwyo gyda chael mynediad i lety arall.

Gallwch wneud cais am help o’r gronfa hon hyd yn oed os nad ydych yn derbyn budd-daliadau neu os ydych yn berchen eich cartref eich hun. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod mewn risg o ddod yn ddigartref.

Cysylltwch â’r Tîm Opsiynau Tai i ganfod os ydych yn gymwys am daliad ar ddisgresiwn at gostau tai ac i wneud cais.

Cymorth Ychwanegol

Mae mwy o gymorth ar gael drwy’r Cyngor, i gael mwy o wybodaeth cliciwch yma i weld Cymorth gyda Chostau Byw.

Mae Porth Cyngor Sir Fynwy yn comisiynu nifer o wasanaethau cymorth a gaiff eu rhedeg gan ddarparwyr allanol. Mae’r cymorth hwn ar gael os oes gennych unrhyw broblem a allai effeithio ar eich cartref. Nid yw’n rhaid i chi fod yn ddigartref neu’n wynebu dod yn ddigartref i gael mynediad i gymorth.

Ffôn: 01633 740730 E-bost : HousingSupportService2@monmouthshire.gov.uk

Sefydiadau eraill

Shelter Cymru

Cyngor ar Bopeth